Optegwyr yn galw am newid y drefn profion llygaid am ddim

  • Cyhoeddwyd
Person dallFfynhonnell y llun, PA

Mae angen gweddnewid y drefn profion llygaid am ddim, wrth i optegwyr ac optometryddion wynebu cyfnod argyfyngus, yn ôl y sefydliad sy'n cynrychioli'r diwydiant.

Credai Optometreg Cymru nad yw eu haelodau yn derbyn taliad digonol gan Lywodraeth Cymru am gynnal prawf llygaid.

Mae profion llygaid am ddim yn cael eu cynnig i gleifion dan-18 oed mewn addysg llawn amser, pobl dros 60 oed, a chleifion sydd â chyflwr glaucoma neu glefyd y siwgr neu sydd â theulu agos â'r cyflyrau hynny.

Dywedodd Norma Davies, cyn-gadeirydd Optometreg Cymru, fod 80% o'i chwsmeriaid yn gymwys i gael prawf am ddim, a bod hynny yn rhoi straen ar y busnes.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r ffioedd sy'n cael eu talu i optometryddion yn cael eu trafod gyda'r sefydliad yn flynyddol.

Mae Mrs Davies ac optometryddion eraill yn derbyn £21 gan Lywodraeth Cymru am gynnal prawf llygaid o dan y Gwasanaeth Iechyd.

Yn yr Alban, mae optometryddion yn derbyn £60 am yr un gwaith.

'Allan o fusnes mewn 5 mis'

Dyw £21 ddim yn ddigon yn ôl Mrs Davies, sy'n optometrydd yng Nghaerfyrddin a Llandysul: "Dwi'n talu mwy i gael fy ngwallt wedi torri. Ma hwnna'n gorfod cynnal busnes, y staff, yr offer, cyfrifiaduron.

"Mae'r overheads sy' 'da ni'r dyddiau 'ma yn erchyll. Os bydden i yn dibynnu ar yr £21 yn unig am y prawf llygaid, mi fydden i allan o fusnes mewn 5 mis.

"Hoffwn i gael fy nhrin yr un fath ag optometryddion yn Yr Alban. Mae mwy o ryddid gyda nhw gyda'r profion ma' nhw'n gorfod neud nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Norma Davies o'r farn bod angen cytundeb newydd gyda'r Llywodraeth, rhywbeth tebyg i'r hyn sydd ar gael yn Yr Alban

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd archwiliadau rheolaidd ar y llygaid, a ni yw'r llywodraeth gyntaf yn y byd i gael cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid, sy'n cynnwys camau i annog mwy o bobl i gael profion rheolaidd.

"Mae gan blant, pobl hŷn, pobl ar fudd-daliadau a'r rhai sydd mewn perygl o gael clefyd y llygaid oll hawl i brofion llygaid am ddim yng Nghymru."

Ychwanegodd Mrs Davies ei bod hi'n poeni am faint o bobl sy'n dewis peidio cael prawf llygaid, ac yn hytrach yn mynd am opsiynau rhatach fel profion llygaid ar-lein.

Yn ôl elusen RNIB Cymru, dyw un o bob 10 person erioed wedi cael prawf llygaid.

Dywedodd Elin Edwards o'r elusen: "Mae RNIB yn cefnogi gwaith hanfodol bwysig optometryddion. Mae optometryddion yn gwneud llawer mwy na checio os ydych chi angen sbectol ai peidio.

"Maen nhw hefyd yn medru gweld a oes gennych bwysau gwaed uchel neu diabetes, felly mae e ynglŷn â'r iechyd llygaid ei hun."