Ymweliad Brwsel: Ffrae dros cefnogaeth ddiplomyddol
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ymweliad swyddogol â Brwsel wedi ffrae ddiplomyddol gyda Llywodraeth y DU.
Yn wreiddiol fe gafodd cais i ddarparu cymorth diplomataidd, sy'n cynnwys defnydd o gar y llywodraeth, ei gynnig ar yr amod na fyddai Mark Drakeford yn "tanseilio" polisi Llywodraeth y DU.
Dywedodd y Swyddfa Dramor bod rhaid sicrhau "bod ein hymdrechion ac adnoddau dramor yn canolbwyntio ar flaenoriaethu amcanion" Llywodraeth y DU.
Mae bellach wedi dod i'r amlwg bod car wedi ei gynnig "yn y pen draw", ond pan godwyd y mater yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow ei fod wedi ei "syfrdanu" gan yr hyn a glywodd.
Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth Cymru fod yr ymateb gwreiddiol i'r cais am gefnogaeth ddiplomataidd yn "ddigynsail" ac "ychydig yn pathetig".
'Dewis plaen'
Mae Mr Drakeford yn cwrdd â phrif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, ac Ysgrifennydd Cyffredinol Senedd Ewrop, Klaus Welle fel rhan o'i ymweliad cyntaf â Brwsel fel prif weinidog.
Cyn yr ymweliad dywedodd Mr Drakeford y byddai'n defnyddio'r cyfarfodydd i "bwysleisio bod rhannau o'r DU sy'n parhau'n barod i weithio'n adeiladol gydag arweinwyr yr UE wrth gydnabod y buddion economaidd a chymdeithasol i'r ddwy ochr".
Ychwanegodd: "Mae'n debyg fod dewis plaen yn ein hwynebu rhwng Brexit heb gytundeb neu barhau yn yr UE - rydym yn ddigamsyniol yn cefnogi aros.
"Er mwyn gwneud hyn rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer refferendwm arall, gyda'r dewis i aros ar y papur pleidleisio."
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru'n wahanol iawn i un Llywodraeth y DU.
Fel arfer mae'r Swyddfa Dramor yn barod i ddarparu cefnogaeth ar gyfer ymweliadau fel hyn, gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru'n cael defnydd o unrhyw geir sydd ar gael.
Ond dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru y byddai'r Swyddfa Dramor ond yn darparu cefnogaeth ar gyfer y daith i Frwsel "os fyddwn ni'n rhoi sicrwydd na fydd y Prif Weinidog yn tanseilio polisi Llywodraeth y DU".
"Fe wnaethon ni wrthod rhoi unrhyw sicrwydd a fyddai'n llesteirio neu atal hawl y Prif Weinidog i siarad ar ran buddion cenedlaethol Cymru.
"Bydd y Prif Weinidog yn hapus i gynnal ei fusnes ym Mrwsel ar drafnidiaeth gyhoeddus."
'Cydbwysedd'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Mae rhwydwaith eang o staff diplomataidd yn darparu cefnogaeth yn gyson i lywodraethau datganoledig y DU ar gyfer ymweliadau sy'n ymwneud â materion y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb datganoledig amdanynt.
"Ond rhaid taro cydbwysedd er mwyn osgoi cefnogi gweithgareddau sy'n bwriadu ymgyrchu am bolisïau sy'n groes i safbwynt Llywodraeth Ei Mawrhydi.
"Fel llywodraeth gyfrifol, rhaid i ni fod yn sicr bod ein hymdrechion a'n hadnoddau dramor yn canolbwyntio ar flaenoriaethu amcanion Llywodraeth Ei Mawrhydi."
'Syfrdanu'
Ddydd Mercher fe godwyd y mater yn Nhŷ'r Cyffredin gan AS Plaid Cymru Jonathan Edwards: "Does dim beirniad llymach o Lywodraeth Lafur Cymru na minnau, ond rwyf wedi fy nghythruddo... at y diffyg parch a ddangoswyd i lywodraeth fy ngwlad gan Lywodraeth Prydain.
"Mae pobl Cymru yn talu trethi hefyd, ac mae'r Swyddfa Dramor i fod i wasanaethau eu buddion nhw.
"A fedrwch chi fy nghynghori sut y gallaf godi'r mater hwn ar frys gyda mainc y Trysorlys?"
Atebodd Mr Bercow: "Ni allaf gofio unrhyw achlysur ers i mi fod yn y gadair hon pan mae pryder o'r fath wedi cael ei fynegi, felly mae'n amlwg yn fater o bwys mawr ac rwyf wedi fy syfrdanu gan yr hyn y mae'r gŵr anrhydeddus wedi dweud wrthyf o flaen llaw ac wedi datgan ar lafar ar lawr y Tŷ."
Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd ym Mae Caerdydd brynhawn Mercher, fe gadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles bod y Swyddfa Dramor wedi cynnig car llywodraeth "yn y pen draw" ond bod "y prif weinidog yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus trwy ei ymweliad â Brwsel heddiw".
Dywedodd yr AC Ceidwadol Darren Millar bod hi'n "rhyfeddol bod gweinidogion Llafur Cymru â mwy o ddiddordeb mewn ceir a chauffeurs na gwir faterion y dydd" a bod angen iddyn nhw "dyfu lan a gwrando ar bobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr UE yn 2016".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2019
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019