Mark Drakeford am i ASau San Steffan wthio am refferendwm

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru yn galw ar Aelodau Seneddol meinciau cefn i orfodi Llywodraeth y DU i baratoi'r ffordd ar gyfer refferendwm arall ar yr Undeb Ewropeaidd.

Ond daw wrth i ASau wrthod cynnig trawsbleidiol i geisio atal Prif Weinidog y DU rhag gadael yr UE heb gytundeb yn y dyfodol.

Dywedodd Mark Drakeford y dylai ASau hefyd orfodi'r llywodraeth i ddechrau'r broses gyfreithiol angenrheidiol er mwyn cynnal ail refferendwm.

Ychwanegodd y dylai'r prif weinidog nesaf alw etholiad cyffredinol os nad ydynt yn barod i gefnogi refferendwm arall.

Mae rhai o'r ymgeiswyr Ceidwadol sy'n gobeithio cymryd lle Theresa May wedi dweud y byddent yn cefnogi gadael yr UE heb gytundeb.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Mae'r demtasiwn o beidio cefnogi unrhyw fargen yn llethol i lawer o ymgeiswyr arweinyddiaeth y Ceidwadwyr."

"Drwy gefnogi dim bargen, maen nhw'n barod i aberthu miloedd o swyddi, dim ond er mwyn cael yr un maen nhw ei eisiau - Prif Weinidog," ychwanegodd.

Mae Mr Drakeford hefyd wedi galw ar ASau meinciau cefn i fynd ymhellach a "gosod cynllun cadarnhaol i roi terfyn ar ansicrwydd Brexit".

Galwodd am ddeddfu i osgoi gadael heb gytundeb, a hefyd gorfodi'r llywodraeth i gyflwyno bil refferendwm erbyn 31 Gorffennaf.

"Rhaid gwneud hyn yn gyflym - ni allwn fforddio'r difrod economaidd sy'n cael ei wneud bob dydd o ganlyniad i ansicrwydd Brexit ac fe allai'r Gwasanaeth Sifil fwrw ymlaen â pharatoi'r ddeddfwriaeth tra bod amser yn cael ei wastraffu ar etholiad arweinyddiaeth y Torïaid."

Gwnaeth Mr Drakeford yr alwad o Frwsel lle, mewn cyfarfod gyda phrif drafodwr Brexit yr UE, gofynnodd i'r undeb ganiatáu "digon o amser i gynnal refferendwm, lle byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y DU yn pleidleisio i aros yn yr UE".