Cyhuddo trydydd dyn o lofruddiaeth Fahad Mohamed Nur

  • Cyhoeddwyd
Fahad Mohamed NurFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fahad Mohamed Nur ar ôl cael ei drywanu ger gorsaf drenau yng Nghaerdydd

Mae tri dyn bellach wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Fahad Mohamed Nur yng Nghaerdydd ar 2 Mehefin.

Fe wnaeth Abdulghalil Aldobhani, 22 o Cathays, a Shafique Shaddad, 24 o ardal Tre-biwt, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi eu cyhuddo o drywanu'r gŵr 18 oed.

Yn ogystal mae trydydd dyn, Mustafa Aldobhani, 21, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Fe wnaeth Aseel Arar, 34 oed o Birmingham, hefyd ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd Mr Nur ei drywanu 21 o weithiau ger gorsaf drenau Cathays yn y brifddinas yn oriau mân 2 Mehefin cyn iddo farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Dim ond siarad er mwyn cadarnhau eu gwybodaeth bersonol wnaeth y tri yn y llys.

Bydd yr achos yn dechrau ar 18 Tachwedd, ond bydd gwrandawiad pellach ar 8 Gorffennaf hefyd.

Mae disgwyl i'r achos bara rhwng tair a phedair wythnos.