Panel sy'n ystyried cais Neil McEvoy eisiau diddymu

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoyFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil McEvoy ei ddiarddel am ei ymddygiad yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn 2017

Mae panel sy'n ystyried cais Neil McEvoy i gael ei ail-dderbyn i Blaid Cymru wedi awgrymu y dylid diddymu'r panel wedi i wybodaeth gael ei ddatgelu i'r wasg.

Fe fydd ail gyfarfod yn cael ei gynnal gan y panel ar ôl iddyn nhw fethu dod i benderfyniad, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran cadeirydd y panel fod y pwyllgor yn "difaru dau achos o ryddhau gwybodaeth heb ganiatâd".

"Ar gais cadeirydd y Pwyllgor Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau, estynnir gwahoddiad i'r Pwyllgor Gwaith i ddiddymu'r pwyllgor o ran delio gyda chais Mr McEvoy, ac apwyntio aelodau newydd a all ystyried y cais o'r newydd," meddai.

Mae ffynhonnell sy'n agos at Mr McEvoy yn dweud bod "cynnydd gwirioneddol" wedi ei wneud wrth geisio sicrhau ei fod yn cael dychwelyd i'r blaid.

Ychwanegodd ei bod hi'n "anffodus gweld gwybodaeth yn cael ei ryddhau am resymau gwleidyddol, er bod Neil wedi parchu'r broses ers y dechrau".

Mae Mr McEvoy yn ceisio ailymuno a'r blaid ar ôl iddo gael ei ddiarddel am dorri nifer o reolau'r blaid.

Dywedodd erthygl yn y Western Mail yn gynharach yn yr wythnos bod y panel wedi hollti, ond dywedodd ffynhonnell Plaid Cymru wrth y BBC ei bod yn bosib fod y cyfarfod wedi "rhedeg allan o amser".

Mae BBC Cymru'n deall bod y panel yn edrych ar ymddygiad Mr McEvoy yn y cyfnod ers iddo gael ei ddiarddel.

Fe wnaeth Plaid Cymru ei wahardd yn dilyn honiadau o ymddygiad aflonyddol mewn cynhadledd yn 2017, ond roedd eisoes wedi'i ddiarddel o grŵp y blaid yn y Cynulliad.