'Achos cryf' dros wneud addysg rhyw yn orfodol
- Cyhoeddwyd
Mae "achos cryf" dros gael gwared ar hawl rhieni i atal eu plant rhag derbyn addysg rhyw a pherthnasoedd, yn ôl Aelod Seneddol Llafur o Gymru.
Dywedodd Nia Griffith, sy'n gyn athrawes, nad yw hi "eisiau gweld unrhyw blentyn yn cael ei wahardd o'r gwersi hynny".
Mae'r syniad o wneud y gwersi addysg rhyw a pherthnasoedd yn orfodol yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.
Mae ymgynghoriad ar y mater wedi dod i ben ond nid yw'r cabinet wedi ei drafod eto.
Cwricwlwm newydd
Fe fydd cwricwlwm addysg newydd Cymru yn cynnwys Addysg Perthynas a Rhywioldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
O dan y drefn newydd, ddaw i rym yn 2022, bydd gorfodaeth gyfreithiol ar athrawon i addysgu gwersi Addysg Perthynas a Rhywioldeb sy'n cynnwys gwybodaeth am berthnasau hoyw, lesbiaidd, deurywiol a trawsrywiol (LHDT).
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, dywedodd Ms Griffith, AS Llanelli, fod y newidiadau i'w croesawu.
Mae rhai grwpiau crefyddol, gan gynnwys y Sefydliad Cristnogol, Cyngor Mwslimaidd Cymru a'r Gwasanaeth Addysg Gatholig, yn gwrthwynebu cael gwared ar yr hawl i dynnu plentyn o'r gwersi.
Ond mae'r Eglwys yng Nghymru, y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol a'r Comisiynydd Plant wedi cefnogi'r syniad.
'Parch at unigolion'
Dywedodd Ms Griffith: "Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol a beth sy'n bwysig yw y dylai pawb yn y gymdeithas honno deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac y dylent allu siarad am eu crefydd a'u rhywioldeb heb ofn.
"Beth bynnag yw credoau unrhyw unigolyn, fe ddylen nhw dderbyn y bydd yna bobl arall sydd â safbwynt gwahanol ac nad yw'n briodol bod yn feirniadol o'r dewis arall hwnnw.
"Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â pharch at unigolion a pharch at bobl nad ydynt o reidrwydd yn meddwl yr un ffordd ag y gallech chi fod yn meddwl."
Mae rhieni wedi bod yn protestio ers dechrau'r flwyddyn y tu allan i ysgolion yn Birmingham am eu bod yn teimlo bod dosbarthiadau oedd yn cynnwys themâu am LHDT yn amhriodol i blant ifanc ac yn anghydnaws ag Islam.
Mae Ms Griffith yn dweud bod y protestiadau wedi ailgodi'r ofnau oedd yn bodoli am fod yn hoyw pan roedd hi yn athrawes ieithoedd tramor.
Roedd hyn yn y cyfnod yn dilyn cyflwyno cyfraith a elwir yn 'Adran 28' yn 1988, oedd yn gwahardd hyrwyddo bod yn hoyw yn yr ysgol.
'Cryn ffordd i fynd'
"Roeddwn i mewn perthynas ag athro benywaidd arall ar y pryd, felly beth ydych chi'n ei wneud? Ydych chi'n siarad neu a ydych chi'n cadw'n dawel?" meddai Ms Griffith.
"Mae arnaf ofn i ni gymryd yr opsiwn o gadw'n dawel, ac mae hynny'n cael effaith rhyfedd iawn o ran yr hyn yr ydych yn siarad amdano yn ystafell y staff a sut rydych chi'n esbonio beth rydych chi'n ei wneud gyda'ch penwythnosau neu ble rydych chi wedi bod ar eich gwyliau.
"Rwy'n credu ein bod wedi dod yn bell iawn, ond rwy'n dal i feddwl bod cryn ffordd i fynd.
"Rwy'n dal i feddwl bod gennym fwlch rhwng yr hyn sy'n cael ei ddeddfu, sut rydych chi'n cael eich diogelu yn y gyfraith o ran eich rhywioldeb, a'r hyn sy'n digwydd mewn llawer o weithleoedd."
'Cyfrifoldeb'
Dywedodd Ms Griffith ei bod wedi siarad mwy am hawliau pobl hoyw yn y blynyddoedd diwethaf, er iddi fod yn agored ynglŷn â bod yn hoyw ers 1995.
"Pan gefais fy ethol fel Aelod Seneddol am y tro cyntaf, doeddwn i ddim eisiau cael fy labelu fel yr AS lesbiaidd, a bod pawb dim ond yn fy holi am hynny," meddai.
"Felly, roeddwn bob amser yn dweud y byddwn yn onest pe bai pobl yn gofyn i mi a byddwn yn ymateb.
"Ac yna dechreuais sylweddoli, mewn gwirionedd, ei bod bron fel bod yn anweledig a dwi'n meddwl bod yna hefyd gyfrifoldeb nawr i geisio sicrhau bod gennym ni bobl i edrych i fyny atyn nhw."
Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 11:00 ar 16 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2017