Heddwas mewn achos disbyglu am wadu nabod rheithiwr
- Cyhoeddwyd

Roedd mab y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant mewn perthynas hirdymor ag aelod o'r rheithgor
Mae gwrandawiad disgyblu wedi clywed bod plismones wedi dweud celwydd i gelu'r ffaith bod cariad ei mab yn aelod o reithgor mewn achos yr oedd hi'n rhan ohono.
Bu'n rhaid i dri dyn ailsefyll eu prawf am lofruddio Lynford Brewster, 29 oed o Gaerdydd, wedi i'r Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant fethu â datgelu ei chysylltiad â Lauren Jones yn yr achos gwreiddiol yn 2016.
Roedd Ms Bryant - swyddog cyswllt teuluol yn yr achos, sydd wedi ei chyhuddo o gamymddygiad dybryd - wedi danfon negeseuon testun at Ms Jones noson cyn dechrau'r achos cyntaf yn dweud wrthi "paid â dweud wrthyn nhw pwy wyt ti".
Daeth y cysylltiad i'r amlwg wythnosau wedi i Dwayne Edgar, Jake Whelan a Robert Lainsbury gael dedfrydau o garchar am oes am drywanu Mr Brewster i farwolaeth yng Nghaerdydd ym Mehefin 2016.
Cafodd y dyfarniadau gwreiddiol eu dileu fis Gorffennaf y llynedd gan y Llys Apêl ond cafodd y tri diffynnydd eu carcharu am yr eildro ym mis Mawrth wedi i reithgor newydd eu cael yn euog.

Roedd Lynford Brewster o ardal Llanedern yn dad i dri o blant
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd ei bod yn cyfaddef peidio datgelu ei bod yn nabod Miss Jones, a gwadu'r cysylltiad wrth gael ei holi gan dditectif uwch-arolygydd wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) dderbyn cwyn.
Mae hefyd yn cyfaddef iddi gynghori Miss Jones sut i golli diwrnod o wasanaeth ar y rheithgor er mwyn osgoi newid apwyntiad gwallt, ond mae hi'n gwadu bod hynny gyfystyr ag ymddygiad anonest.
Wrth gyflwyno'r dystiolaeth yn erbyn y blismones, dywedodd Jeremy Johnson bod un o'r negeseuon testun noson cyn diwrnod agoriadol yr achos gwreiddiol yn annog Miss Jones: "Paid â dweud wrth unrhyw un ohonyn nhw pwy wyt ti i mi rhag ofni iddyn nhw feddwl 'mod i wedi dweud wrthat ti [am yr achos] er mod i heb wneud hynny.
"Dywedodd wrth y Ditectif Uwcharolygydd [Mark] O'Shea nad oedd yn nabod yr aelod o'r rheithgor. Doedd hynny ddim yn wir.
"Fe gywirodd ei hun y diwrnod canlynol, ond erbyn hynny roedd y CPS wedi cael gwybodaeth gelwyddog."
Mae'r achos disgyblu yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016