ACau yn 'gwrthod' cefnogi rheolau iaith ym maes iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o Aelodau Cynulliad yn dweud na allent gefnogi rheolau newydd ar y defnydd o'r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd oherwydd na chafwyd digon o amser i'w craffu.
Mae'r pwyllgor yn dweud bod methiant Llywodraeth Cymru i ganiatáu digon o amser yn "fethiant difrifol".
Yn ôl adroddiad y pwyllgor, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio tuag at sicrhau fod gan bobl fynediad at wasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y pwyllgor yn eu hadroddiad, er eu bod yn "gefnogol iawn o unrhyw ymdrech - a phob ymdrech - i gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg, ni allwn gymeradwyo'r rheoliadau hyn gan na fu digon o amser i ymgynghori arnynt na chraffu arnynt yn iawn".
Mae'r rheoliadau yn ceisio annog defnydd o'r Gymraeg mewn meddygfeydd, deintyddfeydd ac mewn optegwyr.
Roedd y pwyllgor yn rhanedig ar y cwestiwn o ddiddymu'r rheoliadau, ond cytunodd yr holl Aelodau y dylid diwygio'r Rheoliadau yn dilyn ymgynghoriad llawn.
Y rheoliadau:
Rhoi gwybod i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y gwasanaethau maent yn fodlon eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg;
Sicrhau bod fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gael i gleifion a/neu aelodau'r cyhoedd;
Arddangos testun yn Gymraeg ac yn Saesneg ar unrhyw arwydd neu hysbysiad newydd sy'n ymwneud â'r gwasanaeth a ddarperir;
Annog siaradwyr Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, i ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg;
Annog y rhai sy'n darparu gwasanaethau i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddi a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn iddynt ddatblygu ymwybyddiaeth o'r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o'i hanes a'i rôl yn niwylliant Cymru) a dealltwriaeth o sut gellir defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau;
Annog y rhai sy'n darparu gwasanaethau i gadarnhau a chofnodi dewis iaith o ran y Gymraeg a'r Saesneg a fynegwyd gan y claf neu ar ran claf.
Yn ôl yr adroddiad, mae cyrff sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd proffesiynol o blaid cwrdd ag anghenion cleifion i gyfathrebu yn eu hiaith eu hunain, ond mae ganddynt bryderon ynglŷn â'r gost a'r sgil-effaith bosib o'r rheoliadau.
Dywedodd yr adroddiad, bod y gweithwyr hyn yn pryderu am y ffaith y "gallai'r rheoliadau godi disgwyliadau cleifion ac y gallent atgyfnerthu'r canfyddiad bod angen i weithwyr proffesiynol siarad Cymraeg er mwyn gweithio yng Nghymru.
"Gall hyn, yn ei dro, atal gweithwyr meddygol proffesiynol y mae mawr eu hangen rhag gweithio yng Nghymru."
Clywodd y pwyllgor gan Colin Nosworthy, o Gymdeithas yr Iaith, a gododd bryder ynglŷn â'r ffaith bod 'na ormod o bwyslais ar farn cyrff proffesiynol, yn hytrach na'r farn ymysg defnyddwyr.
Dywedodd bod "y rheoliadau yn llawer rhy wan i yrru gwelliannau o ddifri o ran gwasanaethau Cymraeg".
'Cam ymlaen'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno i gyd-fynd â gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Mae hyn (y rheoliadau) yn gam ymlaen wrth ddatblygu gwasanaethau iechyd cyfrwng Cymraeg... rydyn ni wastad wedi nodi y bydda ni'n adolygu effaith a gweithrediad y rheoliadau."
Mae Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd wedi cyflwyno cynnig i ddirymu'r rheoliadau.
Bydd y cynnig hwn yn cael ei drafod ar 19 Mehefin 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018