'Dim gor-bwysleisio'r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae gorfodi staff i siarad Cymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn mynd i greu mwy o broblemau nag sydd yna'n barod.
Dyna farn Dr Phil White, o Gymdeithas Feddygol Brydeinig Cymru (BMA Cymru), a oedd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Cynulliad ddydd Iau.
Roedd y pwyllgor yn trafod rheoliadau newydd i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg o fewn gwasanaethau iechyd.
Dywedodd Dr White na allwn ni "or-bwysleisio'r Gymraeg" mewn ardaloedd lle nad oedd yr iaith mor amlwg.
"Dros Gymru i gyd mae'n anodd iawn cael staff fel mae pethau," meddai.
"'Da ni'n brin o arbenigwyr, 'da ni'n brin o feddygon teulu ac mae rhoi angenrheidrwydd ar siarad Cymraeg yn mynd i greu fwy o broblem nag sydd gyda ni ar y foment."
'Ddim eisiau gorfodi'r Gymraeg'
Ychwanegodd Dr White, sy'n feddyg teulu yn y gogledd-orllewin, bod darparu gwasanaethau yn ei ardal o yn hawdd gan fod y staff i gyd yn siarad Cymraeg a bod tua 90% o'i apwyntiadau gyda chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg, meddai, mae hynny am fod yn broblem.
Yn ôl Dr Ian Harris, o BMA Cymru, mae'r corff eisiau gweld symudiad tuag at fwy o ddarpariaeth ac eisiau gweld hwb i ddarpariaeth Gymraeg mewn gofal sylfaenol.
"Ond y pwyslais sydd gyda ni ar hyn o bryd yw sicrhau bod meddygfeydd ar gael," meddai.
"Hwnna yw'r pwyslais cyntaf sydd ganddom ni fel cymdeithas... bydd dim meddygfeydd gan rhai o'r cleifion yma os nad ydyn ni'n ofalus.
"Dy'n ni ddim isio gorfodi pobl i roi darpariaeth yn yr iaith Gymraeg a gweld bod hynny'n cyflymu'r broses o gael gwared â'r meddygfeydd."
Roedd gan gynrychiolydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, Dr Caroline Seddon, bryderon ynglŷn â'r gost i ddeintyddfeydd hefyd.
Dywedodd bod y gwasanaeth wedi ei gynllunio fel bod y deintyddfeydd yn gweithio fel busnesau bach, felly os nad ydy'r bwrdd iechyd yn talu'r costau ychwanegol o ddarparu gwasanaeth Gymraeg yn gyfan gwbl, mi fydd hynny yn cael effaith ar y busnesau hynny.
Mae'r rheoliadau newydd yn gofyn i bobl sy'n darparu gwasanaethau i wneud yn siŵr bod dogfennau ar gael yn Gymraeg, bod arwyddion newydd yn cael eu creu yn ddwyieithog, bod staff yn cael eu hyfforddi i wella'u defnydd o'r Gymraeg, a bod staff yn cael eu hannog i wisgo bathodyn i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg os ydyn nhw'n medru'r iaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2016