£85m ar gael i'w wario yn wyneb Brexit heb gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Ffordd waelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai £5m o'r cyllid ar gael er mwyn cynnal y ffyrdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £85m i'w wario ar dai cymdeithasol a ffyrdd er mwyn "rhoi hwb" i wytnwch Cymru yn wyneb Brexit heb gytundeb.

Bydd yr arian isadeiledd hefyd ar gael i gynghorau lleol a rhai sectorau economaidd, fel y diwydiant moduro.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans y byddai'n "ystyried" gwneud cyhoeddiad arall ar fuddsoddiad yn nes at ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r nawdd yn rhan o newidiadau Llywodraeth Cymru i'w chyllideb £18bn ar gyfer 2019-20.

Dyma'r gyntaf o ddwy gyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

Ble fydd yr arian yn cael ei wario?

Mae'r £85m ar gael o ganlyniad i ailddyrannu arian wrth gefn Llywodraeth Cymru, ac yn cynnwys:

  • £50m ar gyfer rhaglenni tai cymdeithasol i lywodraeth leol, gan gynnwys adeiladu hyd at 650 o dai newydd;

  • £5m er mwyn cynnal y ffyrdd;

  • £10m ar gyfer sectorau fel moduro, gwneud nwyddau a gwyddorau bywyd;

  • £20m i gynghorau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif o'r £85m ar gyfer rhaglenni tai cymdeithasol i lywodraeth leol

Yn siarad cyn dadl ar y gyllideb atodol yn y Senedd, dywedodd Ms Evans: "Mae hi wir yn gyfrifoldeb arnom ni fel llywodraeth gyfrifol i fod yn paratoi ar gyfer pob sefyllfa bosib, ac mae hynny'n rhan o'r cyhoeddiad heddiw.

"Y nod yw rhoi hyder i'r diwydiant adeiladu yn enwedig, ond hefyd i'r gadwyn gyflenwi sy'n dibynnu arno."

Dywedodd Ms Evans bod Llywodraeth Cymru mewn "sefyllfa gwbl anhygoel" o beidio gwybod am ei chyllideb gan y Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

"Does dim arwydd o gwbl bod addewid Llywodraeth y DU bod llymder wedi dod i ben yn rhywbeth maen nhw'n fodlon ei ddangos mewn termau ariannol," meddai.