Pryder ysgol Gymraeg am effaith codi tâl am fws
- Cyhoeddwyd
Mae pryder am ddyfodol addysg Gymraeg i bobl ifanc dros 16 oed yn Sir y Fflint ar ôl i gabinet y cyngor bleidleisio i beidio darparu cludiant am ddim ar eu cyfer o fis Medi 2020.
Bydd disgyblion sy'n cael cinio ysgol am ddim yn parhau i gael bws am ddim, ond fe allai'r gweddill orfod talu rhwng £150 a £450 y flwyddyn.
Dywedodd dirprwy bennaeth unig ysgol uwchradd Gymraeg y sir bod "pryderon anferth" y bydd disgyblion yn troi at sefydliadau addysg Saesneg o ganlyniad.
Yn ôl arweinwyr Cyngor Sir Y Fflint mae'n rhaid arbed arian, er yr effaith ar rai teuluoedd, a bydd y cam yn arbed £750,000 y flwyddyn.
Sir y Fflint ydy un o'r ychydig awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n dal i gynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion neu fyfyrwyr chweched dosbarth.
Dywedodd dirprwy bennaeth Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, Llifon Jones wrth raglen Post Cyntaf bod perygl i nifer y disgyblion chweched dosbarth ostwng o'r 80 presennol i 50.
Mae'n ofni y bydd yn arwain at ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd mewn sir gyfagos, "pan mae trafnidiaeth am ddim yn cael ei ddileu, mae'r niferoedd sy'n dod yn ôl yn syrthio yn aruthrol".
Mae Mr Jones yn cydymdeimlo â'r pwysau ar gynghorwyr i wneud arbedion ac ar ysgolion uwchradd Saesneg y sir.
Ond mae'n dadlau bod rhaid ystyried bod "angen amddiffyn iaith fregus yn y sir yma", yn ogystal â disgyblion bregus o deuluoedd llai cyfoethog.
"'Da ni'n byw yn sir gyfoethocaf y gogledd... mae 'na ddigon o arian i rai pethau," meddai.
"Dwi'n deall sefyllfa [Cyngor] Sir Y Fflint yn iawn - maen nhw'n gorfod gwneud toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Ond dwi'n meddwl bod 'na egwyddor bellach yna fa'ma - dyfodol y Gymraeg yn Sir Y Fflint."
'Problem Cymru gyfan'
Ychwanegodd ei fod yn pryderu y bydd rhieni o bosib "ddim yn dewis addysg Gymraeg yn y cychwyn" os nad ydyn nhw'n rhagweld y bydd eu plentyn yn mynd i ysgol uwchradd Gymraeg.
"Yn yr ysgol yma, dwi'n gweld ni yn mynd i chweched dosbarth o 50. Yn syth, mi fydd 'na gwestiynau am ein cwricwlwm a'r amrediad o gyrsiau," meddai Mr Jones.
"Mi geith ein plant ni, fwy na thebyg, eu hamsugno i sefydliadau Seisnig ac fe fyddan ni wedi'u colli nhw.
"Ydyn ni eisiau Cymru newydd ddwyieithog? Ac ydyn ni'n fodlon gwneud y penderfyniadau cyllidol sy'n mynd i arwain at hynny?
"Dydy hon ddim yn broblem i Sir y Fflint - mae hon yn broblem i Gymru gyfan."
'Dim llawer o opsiwn'
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, ar aelod cabinet sy'n gyfrifol am gyllid, bod yr arian fyddai'n cael ei arbed cyfystyr â chodi Treth y Cyngor 1%.
"Gyda chalon drom ydyn ni'n cefnogi hyn, ond does gennym ni ddim llawer o opsiwn," meddai.
"Byddwn yn amddiffyn y disgyblion mwyaf bregus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2019