Disgwyl cyhoeddiad am enillwyr Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Iau.
Bydd enillwyr y tri chategori Cymraeg, tri chategori Saesneg, enillwyr prif wobrau ac enillwyr barn y bobl yn y ddwy iaith yn cael eu cyhoeddi.
Fe fydd gwobr o £1,000 i enillwyr pob categori, a bydd enillwyr Llyfr y Flwyddyn yn y ddwy iaith yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Rhestrau Byr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2019
Gwobr Farddoniaeth
Twt Lol - Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Cyrraedd a Cherddi Eraill - Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
Stafell fy Haul - Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
Ynys Fadog - Jerry Hunter (Y Lolfa)
Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Esgyrn - Heiddwen Tomos (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cymru mewn 100 Gwrthrych - Andrew Green (Gwasg Gomer)
Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen' - Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)
Rhyddhau'r Cranc - Malan Wilkinson (Y Lolfa)
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r darlledwr Dylan Ebenezer, Dr Cathryn Charnell-White o Brifysgol Aberystwyth a'r bardd ac awdur Idris Reynolds.
Bydd gwobr Barn y Bobl, sy'n cael ei noddi gan golwg360, yn cael ei roi i'r gyfrol a gafodd y bleidlais gyhoeddus fwyaf.
Yn Saesneg, mae'r 'People's Choice Award' yn cael ei noddi gan y Wales Arts Review.
Mae'r panel beirniadu Saesneg yn cynnwys y bardd ac Athro Sandeep Parmar, Dr Louise Holmwood-Marshall o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Emeritws Russell Celyn Jones.
Rhestrau Byr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2019
Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias
Insistence - Ailbhe Darcy (Bloodaxe)
Salacia - Mari Ellis Dunning (Parthian)
Gen - Jonathan Edwards (Seren)
Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
Arrest Me, for I Have Run Away - Stevie Davies (Parthian)
West - Carys Davies (Cyhoeddiadau Granta)
Sal - Mick Kitson (Canongate)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Moneyland - Oliver Bullough (Profile)
The light in the dark: A winter journal - Horatio Clare (Elliott & Thompson)
Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war - Gethin Matthews (Gwasg Prifysgol Cymru)
Pan gafodd y rhestrau byr eu cyhoeddi, dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Dyma gyfrolau sy'n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd.
"Mae iechyd meddwl a hunaniaeth - boed yn bersonol neu'n genedlaethol - yn llinyn cyswllt drwy'r cyfan.
"Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019