AS wedi troi at gwnsela wedi bygythiadau gan y cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi dweud ei bod wedi troi at gwnsela er mwyn delio â'r bygythiadau mae hi'n ei derbyn am wneud ei swydd.
Dywedodd yr AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe, Carolyn Harris ei bod hefyd wedi meddwl am roi'r gorau i wleidyddiaeth yn gyfan gwbl.
"Rwy' wedi eistedd i lawr a llefain. Rwy' wedi eistedd i lawr a llefain a meddwl na allai fynd ymlaen rhagor," meddai.
Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi ymchwilio i 15 o achosion bygythiol yn erbyn ASau lleol ers mis Ebrill.
Mae'r sefyllfa yn "fygythiad i ddemocratiaeth", yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael.
Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn ôl Ms Harris, mae'r bygythiadau mae hi'n eu derbyn yn dod o ddwy ochr y ddadl.
"Mae gennych chi bobl sy'n dweud fy mod i'n fradwr am fy mod i ddim yn cefnogi Brexit, ac yna mae 'na bobl sy'n dweud fy mod i'n hwyluso Brexit Torïaidd," meddai.
"Fe es i mewn i dacsi'n ddiweddar ac roedd y gyrrwr yn gwybod yn iawn pwy o'n i ac fe ddywedodd wrthai y dylai pob AS gael eu saethu."
'Ffonio'r heddlu pan rwy'n gadael y tŷ'
Cafodd mwy na £4.2m ei wario ar fesurau diogelwch ychwanegol ar gyfer ASau yn 2017/18.
Dywedodd Heddlu Metropolitan Llundain eu bod wedi derbyn 600 o adroddiadau o gamdriniaeth neu fygythiadau yn erbyn ASau rhwng Ionawr ac Ebrill eleni.
Dywedodd Ms Harris bod yn rhaid iddi adael yr heddlu wybod i le mae hi'n mynd pan fydd hi'n gadael y tŷ fel eu bod nhw'n gallu bod yno.
"Mae heddlu Abertawe wedi bod yn wirioneddol wych ond siawns fod ganddyn nhw bethau pwysicach i'w gwneud na gofalu amdana i," meddai.
Fis Ebrill, cafodd e-bost ei anfon at ASau yn cynnig cwnsela iddyn nhw er mwyn delio ag "oriau hir" a "phwysau aruthrol" Brexit.
Dywedodd Ms Harris ei bod wedi defnyddio'r gwasanaeth i helpu i ddelio ag effaith straen.
"Rwy' wedi cael cwnsela - dechreuais i feddwl 'mod i angen troi hyn o rywbeth negatif i rywbeth positif ac rwy'n teimlo'n reit dda ar y foment ond mae wedi cymryd sbel i gyrraedd rhyw fath o normalrwydd."
Dywedodd yr AS Ceidwadol Simon Hart ei fod yntau hefyd wedi derbyn bygythiadau, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae un o bwyllgorau Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi papur gwyn a fyddai'n rhoi mwy o gyfrifoldeb i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol o ran diogelwch defnyddwyr.
Dywedodd cwmni Twitter eu bod yn "ymwybodol iawn o'n cyfrifoldebau ac rydym wedi dod yn bell iawn".
Gwyliwch mwy am y stori yma ar Wales Live, 22:35, dydd Mercher, BBC One Wales
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018