Alun Cairns: 'Rhaid paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb'

  • Cyhoeddwyd
Alun CairnsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns ei fod yn gobeithio gweld y DU yn gadael yr UE gyda chytundeb

Mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar ddiwedd mis Hydref, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Alun Cairns wrth BBC Cymru bod rhaid i'r llywodraeth "weithredu yn sgil canlyniad y refferendwm", hyd yn oed os yw hynny'n arwain at Brexit heb gytundeb.

Ond mynnodd ei fod yn gobeithio gweld y DU yn gadael gyda chytundeb, a'i fod "wir yn credu" bod modd sicrhau hynny pe bai Boris Johnson yn cael ei ethol fel Prif Weinidog.

Mae Mr Cairns eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Johnson, gan honni y gallai ef "uno'r wlad".

Yn ôl Mr Cairns, paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb yw'r "ffordd orau" o sicrhau bod cytundeb yn cael ei lunio.

Mae disgwyl i'r DU adael yr UE erbyn 31 Hydref.