Y ddwy chwaer a ddaeth â Monet i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl yn heidio i'r Van Gogh Museum yn Amsterdam i weld paentiadau'r arlunydd enwog, neu i Musée d'Orsay Paris i weld gweithiau lliwgar Monet.
Ond oeddech chi'n gwybod nad oes rhaid i chi fynd mor bell i ffwrdd o adref i ryfeddu ar olygfeydd godidog yr arlunwyr yma? Mae rhai o'u darnau nhw, ac arlunwyr byd-enwog eraill, i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Ers y 1950au, mae wedi bod yn bosib i ymwelwyr yr Amgueddfa ryfeddu ar weithiau gwreiddiol artistiaid eiconig fel Monet, Cézanne, Van Gough a Renoir - ac mae'r diolch am hynny i ddwy chwaer o ganolbarth Cymru.

San Giorgio Maggiore gyda'r gwyll, Claude Monet, 1908
Cafodd Gwendoline a Margaret Davies eu geni yn yr 1880au a'u magu ym Mhlas Dinam, Sir Drefaldwyn, yn wyresau i David Davies, y diwydiannwr o Landinam, sydd yn cael ei adnabod fel 'miliwnydd cyntaf Cymru'.
Roedd gan y ddwy ddiddordeb mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau, ac yn defnyddio eu cyfoeth i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, addysgol a diwylliannol yn eu hardal a thu hwnt, ynghyd â chyfrannu i elusennau.

Gwendoline (chwith) a Margaret Davies
Prynodd y ddwy Neuadd Gregynog ger y Drenewydd yn 1920 a'i droi yn ganolfan celfyddydol.
Dechreuodd y ddwy Wasg Gregynog yn 1922 a Gŵyl Gregynog yn 1938 - gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru, sy'n parhau hyd heddiw.
Ond eu cyfraniad mwyaf i'r celfyddydau yng Nghymru oedd eu casgliad helaeth o waith celf.

Hanner dydd, L'Estaque, Paul Cézanne, tua 1879
Dechreuodd y ddwy brynu gweithiau celf wrth deithio Ewrop yn 1908. Eu prif ddiddordeb oedd yr Argraffiadwyr (Impressionist) a'r Ôl-argraffiadwyr, ond roedd darnau gan rai o artistiaid amlycaf yr 20fed ganrif hefyd yn eu casgliad.
Byddai'r ddwy yn prynu gweithiau gan artistiaid nodedig fel Monet, Rodin, Turner a Millet.
Erbyn 1924, roedd ganddyn nhw'r casgliad mwyaf o weithiau'r Argraffiadwyr a'r Ôl-argraffiadwyr Ffrengig yn y wlad.

Lilïau Dŵr, Claude Monet, 1905
Yn 1953 ac 1961, cafodd eu casgliad enfawr o 260 o weithiau celf ei gyflwyno i Amgueddfa Cymru fel rhodd.
Yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd heddiw, cewch weld gweithiau byd-enwog fel La Parisienne gan Renoir, rhai o dirluniau Monet o Fenis, cerflun Y Gusan gan Rodin, a gweithiau gan Cézanne, Daumier a Van Gogh a mwy.

Glaw - Auvers, Vincent Van Gogh, 1890
Bu farw Gwendoline yn 1951, a Margaret yn 1963, ond mae eu casgliad rhyfeddol yn parhau i ddenu cannoedd o filoedd o ymwelwyr o bedwar ban byd i'r Amgueddfa Genedlaethol bob blwyddyn.

Edrych ar La Parisienne, Pierre-Auguste Renoir, 1874
Hefyd o ddiddordeb: