Dioddefwr: Siarad am gamdriniaeth wedi achub fy mywyd
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr ifanc a gafodd ei gamdrin yn rhywiol pan yn fachgen ysgol wedi dweud bod estyn allan am gymorth wedi achub ei fywyd.
Yn 9 oed, cafodd y dyn ei gamdrin gan fachgen arall - oedd yn ei arddegau ar y pryd - wrth chwarae gêm o guddio.
Ar raglen Manylu ar Radio Cymru, dywedodd y dyn 23 oed ei fod wedi ystyried lladd ei hun cyn penderfynu ymweld â'i feddyg teulu.
Rhwng 2014 a mis Ebrill 2019, roedd llai nag un ymhob pump o'r holl unigolion aeth at Ganolfan Gefnogaeth Trais a Chamdrin Rhywiol Gogledd Cymru yn ddynion.
Dywedodd y dyn, nad ydyn ni'n ei enwi, ei bod hi'n anodd iawn siarad am ei brofiadau, ond erbyn hyn mae am annog eraill i chwilio am gymorth.
"Dwi'n gwbod taswn i ddim wedi agor allan dwi ddim yn meddwl y baswn i yma heddiw," meddai.
"Mae'n rhaid i chi ddod at wraidd y broblem ac i 'neud hynny mae'n rhaid i chi ddelio hefo beth bynnag sy'n eich poeni chi."
'Teimlo'n fudr'
Yn fuan wedi'r ymosodiad, cafodd y dyn ei rybuddio gan yr ymosodwr i beidio ag ynganu gair am y digwyddiad wrth neb.
Am flynyddoedd cadwodd y gyfrinach - ond roedd 'na bris i'w dalu wrth i'w iechyd meddwl ddirywio.
"Yn syth ar ôl y digwyddiad mi oeddwn i'n teimlo'n afiach - yn teimlo mor fudr fel mod i'n golchi, golchi, golchi ac yn sgwrio... ac yn cael bath neu shower ddwywaith neu deirgwaith y dydd achos mi oedd 'na rywun arall wedi bod mewn llefydd nad oedden nhw i fod."
Ychwanegodd: "Doeddwn i ddim yn trystio neb wedyn a ddim yn gwneud lot hefo pobl. Doeddwn i ddim isio i neb arall ddod mor agos rhag ofn i rwbath ddigwydd eto.
"Dwi wedi cau fy hun allan ac wedi colli allan ar lot o bethau."
Cyrhaeddodd y cyfan ei benllanw un nos Galan wrth iddo ystyried lladd ei hun - cyn sylweddoli nad fo ddylai gael ei gosbi.
'Nid lladd fy hun yw'r ateb'
"Nes i sylwi mai dim lle fi oedd teimlo fel hyn ond y person 'nath. Ac er mod i'n beichio crio ac wedi cynhyrfu mi nath yr ychydig funudau na 'neud i mi sylweddoli mod i isio help ac nad lladd fy hun oedd yr ateb."
Datgelodd y cyfan wrth feddyg teulu cyn penderfynu i fynd at yr heddlu.
Yn yr achos llys wnaeth ddilyn cafwyd yr ymosodwr yn euog o ymosodiad rhyw a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
Codi ymwybyddiaeth
Sefydlwyd Canolfan Gefnogaeth Trais a Chamdrin Rhywiol Gogledd Cymru yn 1983, ac ers 2005 maen nhw'n cynnig cymorth cyfartal i ddynion a phobl ifanc.
Dywedodd Fflur Emlyn o'r elusen fod "merched yn fwy tebygol o ddod ymlaen i edrych am help ac i riportio, a dydy dynion ddim mor debygol o ddod ymlaen i chwilio am yr help".
"'Da ni'n trio codi ymwybyddiaeth o hynny," meddai.
"Mae 'na lot sydd ddim yn datgelu a dod ymlaen, ond mae ein help ni yn gyfartal i bawb."
Mae Manylu yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, 27 Mehefin am 12:30.
Os ydych chi wedi ei effeithio gan y stori uchod, gallwch gysylltu â llinell gymorth Canolfan Trais a Chamdrin Rhywiol Gogledd Cymru ar 0808 80 10 800.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2018