Ateb y Galw: Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddwyd

Eleni, mae yna Archdderwydd newydd wedi dechrau ar y swydd, sef Myrddin ap Dafydd, a hynny yn y dref lle cafodd ei eni, Llanrwst.
Enillodd y Prifardd gadeiriau eisteddfodol yn 1990 a 2002. Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr ar Oriel Tonnau a Chwrw Llŷn.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Drwy niwl y bore, mae gen i gof am ddamwain rhwng fy llaw chwith ac olwyn cadair olwyn cymydog inni yn y cefnydd yn Llanrwst. Rhyw dair oed oeddwn i ar y pryd ac mi ges 18 o bwythau yn fy mysedd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dibynnu pwy oedd yn canu ar Disg a Dawn y Sadwrn cynt.

Myrddin yn cael ei gadeirio am ei awdl ar y testun Gwythiennau yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 gan yr Archdderwydd Ap Llysor
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Arwisgo 1969. Do'n i mond 12 oed ond doeddwn i ddim yn medru credu ein bod ni fel cenedl mor dwp ynglŷn â phwy oeddan ni.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Llenwi, nid crïo ydi hi erbyn hyn, mae'n siŵr. Mi fydda i'n gwneud hynny wrth sgwennu, wrth siarad yn gyhoeddus ac wrth ddarllen rhywbeth emosiynol.
Dwi'n darllen nofel i blant am Eidalwyr De Cymru ar hyn o bryd - mae clywed be' wnaeth llywodraeth Llundain iddyn nhw adeg yr Ail Ryfel Byd yn gwneud i mi lenwi.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n osgoi ateb cwestiynau weithiau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Amryw, amryw, amryw. Dwi newydd fod yn cerdded rhan o lwybr arfordir Llŷn. Harddwch, tawelwch, cwmni.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Caerfyrddin, Medi 1974. Gwynfor yn ei ôl. Aeth hi'n 50 awr heb gwsg.
Gwynfor Evans ar ôl etholiadau 1966 a 1974
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Bore mae'i dal-hi.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Cerddi'r Cywilydd gan Gerallt Lloyd Owen; One Flew Over the Cuckoo's Nest.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Iolo Morganwg. Fysa fo'n medru gwagio'r Corn Hirlas tybed?

Iolo Morganwg - y dyn tu ôl i draddodiadau'r Orsedd
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n bwyta rhyw fath o nionyn bob dydd o'r flwyddyn.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am blatiad o fwyd môr i Aberdaron (a Chwrw Llŷn wrth gwrs).
Beth yw dy hoff gân a pham?
Hi yw fy ffrind gan Ems. Dwi'n hoff iawn o'r 'Pe gallwn fod' gwylaidd ar y dechrau.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
1af: Cregyn gleision; 2il: Gŵydd; 3ydd: Unrhyw beth sy'n cynnwys ffrwythau, neu - os ydi o ar gael - affagato, sef coffi espresso dros hufen iâ fanila.
Ac mae'n siŵr y byswn i'n adrodd stori Dudley am ŵr gydag acen Caerdydd yn gofyn am hwn dramor ac yn cael sioc pan ddaeth y gweinydd â 'alf o' gateau iddo!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Yr un sy'n cael ei gadeirio.

Myrddin oedd Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith yn Eisteddfod Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau 1989. Bydd ei wisg ychydig yn wahanol yn Eisteddfod eleni... (a phapur wal y stiwdio yn llai '80au')
Oes gen ti un digwyddiad o Eisteddfod Llanrwst 1989 sy'n aros yn y cof?
Ddiwedd pnawn Mercher, ro'n i a chriw y Pwyllgor Maes yn disgwyl y tu allan i ddrws ochr y Pafiliwn i ddefod y Fedal Lên orffen fel ein bod ni'n medru hebrwng yr enillydd yn syth i'r Babell Lên.
Roedd hi'n arllwys y glaw am ein pennau ni ac roeddan ni fel chwid. Dyma Trebor Edwards yn codi'n calonnau ni drwy ddeud, 'Wel, diolch byth nad ydi hi'n eira, hogia!'.
Hefyd o ddiddordeb: