Cymeradwyo cynllun i ddatrys llygredd Hafodyrynys

  • Cyhoeddwyd
Hafodyrynys
Disgrifiad o’r llun,

Mae lorïau a cheir yn defnyddio'r ffordd rhwng Trecelyn a Phont-y-pŵl

Mae cabinet Cyngor Caerffili wedi cymeradwyo cynllun i ddatrys problem safon aer un o strydoedd mwyaf llygredig y DU.

Bu'r cabinet yn trafod cynnig i brynu rhai o'r tai ar ochr ddeheuol yr A472 yn Hafodyrynys gan gynnig 150% o werth y farchnad am yr eiddo.

Bydd y tai wedyn yn cael eu dymchwel er mwyn cyrraedd targedau awyr glan.

Fe gafodd adroddiad gerbron y cabinet ei gymeradwyo'n unfrydol fore Mercher, a bydd nawr yn mynd at Lywodraeth Cymru er mwyn cael sêl bendith terfynol.

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd: "Un o'r prif bryderon i'r trigolion oedd y byddai gwerth y farchnad o'u heiddo yn eu gadael heb yr arian i'w galluogi i symud i gartref arall.

"Rydym yn cydnabod mai iechyd a lles yw'r flaenoriaeth, ond doedden ni ddim am weld unrhyw un o'r trigolion yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i broses o brynu gorfodol.

"Ry'n ni'n croesawu'r penderfyniad yma, a hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad wrth ein cynorthwyo i gytuno ar y ffordd yma ymlaen."