Cynllun 200 o swyddi Maes Awyr Caernarfon yn chwalu
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Maes Awyr Caernarfon wedi dweud ei fod yn siomedig dros ben bod cynlluniau i greu hyd at 200 o swyddi yno wedi dymchwel.
Roedd Huw Jones Evans wedi gobeithio prynu cwmni o Rydychen, P and M Aviation, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.
Daeth hi i'r amlwg ym mis Mehefin fod bwriad gan y maes awyr i ehangu, gyda'r nod o gynhyrchu tua 200 o awyrennau microlight mewn blwyddyn.
Dywedodd AS Arfon Hywel Williams ar y pryd bod y cynlluniau'n "gam positif iawn" gyda'r posibilrwydd o swyddi da i bobl leol.
Ond ddydd Llun fe ddywedodd Mr Evans ei fod wedi methu â chwblhau'r broses o brynu'r cwmni.
Mae bellach ar ddeall fod yr asedau wedi cael eu gwerthu i brynwr arall.
Ychwanegodd Mr Evans fod y maes awyr yn edrych ar ffyrdd eraill o ddatblygu'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019