Rhagfarn PTSD cyflogwyr yn cadw cyn-filwyr allan o waith
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-filwr gafodd ei anafu wrth wasanaethu yn Afghanistan yn credu fod gan gyflogwyr ragfarn yn ei erbyn oherwydd ei Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD.
Dywed Anthony Lock, 37 oed a chyn-gorporal gyda'r Cymry Brenhinol, ei fod hefyd yn anhapus gyda staff canolfan waith oherwydd nad oeddynt yn ymwybodol o gynllun i roi cefnogaeth i gyn-filwyr.
Mae Mr Lock o Gasnewydd yn ddi-waith er iddo wneud ceisiadau am gannoedd o swyddi, a'i fod hefyd wedi derbyn canmoliaeth am ei "arweinyddiaeth a dewrder" wrth wasanaethu gyda'r fyddin.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro.
Dywedodd Mr Lock: "Does neb yn barod i fy nghyflogi oherwydd fy mod â PTSD.
"Dyna sut rwy'n teimlo, mae yna ragfarn yna - unwaith bod yn rhaid i mi ddweud pam fy mod wedi bod heb waith am chwech neu saith mlynedd - dyna pryd mae'r sgwrs yn gorffen.
"Mae hyn un ai oherwydd fy mod â PTSD, fy nghyflwr iechyd meddwl neu fy mod wedi cael sawl anaf ac maen nhw'n meddwl byddaf yn absennol o'r gwaith drwy'r amser."
Ar un ymweliad â Chanolfan Byd Gwaith, dywed Mr Lock nad oedd gan y staff yno unrhyw wybodaeth am Gynllun Pencampwr y Lluoedd Arfog - sy'n helpu cyn-filwyr 'nôl i'r gwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn wir gwerthfawrogi gwasanaeth ein lluoedd arfog ac yn ymddiheuro i Mr Lock pe bai'n teimlo fod ei ymweliad gyda chanolfan waith wedi profi'n siom.
"Mae gan bob Canolfan Byd Gwaith Bencampwr y Lluoedd Arfog, a phe bai'n hapus i gysylltu eto, yna byddwn yn hapus i amlinellu'r cymorth sydd ar gael iddo."
Anafiadau difrifol
Cafodd Mr Lock ei anafu ddwywaith gan ffrwydradau mewn cyfnod o chwe wythnos yn Afghanistan yn 2009.
Roedd yr anafiadau yn rhai difrifol, gyda'i wddw wedi ei dorri.
Mae'n teimlo fod Llywodraeth y DU, y Fyddin a chyflogwyr wedi ei siomi.
"Dyw'r Fyddin hyd yn oed methu â dod o hyd i'r cymwysterau Mathemateg a Saesneg gefais tra'n gwasanaethu," meddai.
Yn ôl Mr Lock fe ddirywiodd ei iechyd meddwl ar ôl gadael y Fyddin, a daeth yn agos at ladd ei hun.
Mae am i fwy o gyflogwyr sylwi na ddylai PTSD fod yn rhwystr nag yn rheswm i beidio rhoi gwaith i rywun.
"Ni ddim yn bobl ddrwg, mae nifer ohonom gyda sgiliau da allai fod o help i'ch busnes."
Diffyg cefnogaeth
Fe wnaeth AS Dwyrain Casnewydd Jessica Morden adrodd stori Mr Lock yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod trafodaeth ar y lluoedd arfog gan ddweud "fod yna ddiffyg cefnogaeth i gyn-filwyr fel Anthony" a dim digon o oruchwyliaeth o'r canolfannau gwaith.
"Mae angen i ni wneud lot mwy i helpu cyn-filwyr nôl i waith, a helpu iddynt ddygymod a bywyd y tu allan i'r Fyddin."
Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin: "Mae cymwysterau sy'n cael eu hennill tra ar wasanaeth [gyda'r lluoedd arfog] yn cael eu rhoi i'r unigolyn gan y corff dyfarnu, nid y fyddin.
"Dylai unigolion gysylltu'n uniongyrchol gyda'r corff dyfarnu i gael tystysgrif arall.
"Bydde'n rhaid i unrhyw un ddarparu tystysgrif fel tystiolaeth o'u cymhwyster."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2017