Eisteddfod: Cynllun traffig er mwyn osgoi tagfeydd
- Cyhoeddwyd
Bydd system unffordd dros dro ar waith yn Llanrwst ym mis Awst wrth i'r dref baratoi i groesawu dros 100,000 o bobl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r trefnwyr a Heddlu Gogledd Cymru'n dweud y bydd cyfarwyddiadau arbennig i yrwyr er mwyn osgoi tagfeydd difrifol.
Mae'r Brifwyl yn cael ei chynnal wrth ochr y A470 ychydig i'r de o Lanrwst rhwng 3 a 10 Awst.
Roedd pryder wedi'i fynegi am effaith y nifer fawr o ymwelwyr ar lif traffig drwy strydoedd cul canol y dref.
Mae'r trefniadau'n cynnwys system unffordd dros dro ar bont Llanrwst, fydd ar gael i draffig sy'n gadael y dref yn unig.
Hefyd bydd:
Meysydd parcio penodol i'w cael wrth i yrwyr gyrraedd o bob un o'r tri phrif gyfeiriad posib;
Llwybrau cerdded a beicio wedi'u cynllunio er mwyn symud yn hwylus rhwng y dref â'r maes, y maes carafanau a'r meysydd pebyll;
Gwasanaethau bysiau gwennol yn cael eu darparu am ddim lle bod angen.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Betsan Moses mai'r "nod i ni yw sicrhau na fydd strydoedd cul y dref hardd a hanesyddol hon yn cael eu tagu gan draffig".
"Ar y cyd â'n partneriaid, ry'n ni wedi cytuno ar system reoli traffig benodol ar gyfer y digwyddiad," meddai.
"Mae hyn yn bwysig er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd hefyd wrth gwrs."
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Neil Thomas o Heddlu Gogledd Cymru y bydd y cynlluniau traffig yn cael eu hadolygu ac y bydd "swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd drwy gydol yr wythnos o amgylch yr ardal".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd14 Mai 2019
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2019