Ymchwilio i ofal claf uned iechyd meddwl ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i bryderon gael eu codi am ofal claf mewn uned iechyd meddwl ar Ynys Môn.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oes aelod o staff Ysbyty Cefni yn Llangefni wedi'i wahardd.
Ond fe ddywedon nhw fod nifer fechan o staff cynorthwyol wedi cael eu tynnu oddi wrth eu gwaith, wrth iddyn nhw ymchwilio.
Dydy'r bwrdd iechyd heb roi manylion am yr hyn ddigwyddodd.
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn cymryd diogelu cleifion o ddifrif ac yn annog ein staff i godi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
"Yn dilyn pryder ynghylch y gofal a ddarperir gan un aelod o staff yn Ysbyty Cefni, rydym yn dilyn ein polisïau mewnol er mwyn bod yn sicr nad oes unrhyw broblemau parhaus a sicrhau bod yr holl brosesau priodol yn cael eu dilyn."
'Pryderus iawn'
Dywedodd prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ei fod yn croesawu'r ymchwiliad a gweithredoedd y bwrdd iechyd.
Yn ôl Geoff Ryall-Harvey mae'r ffaith fod problemau wedi bod â'r driniaeth o gleifion iechyd meddwl a dementia yn y gorffennol - fel sgandal Tawel Fan - yn golygu bod unrhyw achos newydd yn destun mwy o bryder.
"Rydyn ni wedi cael problemau Tawel Fan, mae 'na lawer o ymchwilio wedi bod i geisio dod o hyd i ddatrysiad i'r sefyllfa ac mae'n bryderus iawn," meddai.
"Mae'n galonogol bod y bwrdd iechyd yn gweithredu'n gyflym er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon sydd wedi cael eu codi."
Ychwanegodd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth bod y newyddion ynglŷn ag Ysbyty Cefni yn "achos pryder".