Lansio ail ymchwiliad wedi i ddau gael eu lladd gan drên
- Cyhoeddwyd
Mae Network Rail wedi penodi arbenigwr annibynnol fydd yn arwain ymchwiliad i ddigwyddiad ble lladdwyd dau weithiwr rheilffordd ar ôl cael eu taro gan drên.
Bu farw Gareth Delbridge, 64 o Fynydd Cynffig, a Michael 'Spike' Lewis, 58 oed o Ogledd Corneli, ar ôl cael eu taro gan y trên ger Margam, Port Talbot ddydd Mercher.
Dywedodd Network Rail y bydd undebau llafur a phartneriaid eraill o'r diwydiant yn rhan o'r tîm fydd yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain, sy'n rhan o'r ymchwiliad, wedi dweud y bydd timau arbenigol heddluoedd trafnidiaeth ledled y DU yn ymuno yn yr ymchwiliad ac yn cynorthwyo arolygwyr lleol.
"Rwyf am sicrhau pawb fod hwn yn archwiliad trwyadl," meddai'r uwch arolygydd Andy Morgan, pennaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain yng Nghymru.
"Mae'n lled debygol y gallai bara am beth amser, ond rwy'n eich sicrhau pe bai unrhyw faterion yn ymwneud â diogelwch yn dod i'r fei, yna byddai'r asiantaethau priodol yn cael gwybod ar unwaith er mwyn iddynt weithredu ar unwaith."
Bydd yr ymchwiliad annibynnol yn gweithio ar wahân i'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd, sydd eisoes yn cynnal ymchwiliad ei hun.
Dywedodd Network Rail ei fod wastad yn lansio ymchwiliad ei hun i ddigwyddiadau o'r fath.
Yn y cyfamser mae rhagor o deyrngedau wedi eu rhoi i'r ddau ddyn fu farw.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain ei fod yn bosib nad oedd Mr Lewis a Mr Delbridge wedi clywed y trên yn nesáu am eu bod yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw.
Cafodd un person arall ei drin am sioc ar y safle.
Dywedodd Prif Weithredwr Network Rail, Andrew Haines bod y ddau fu farw yn "aelodau profiadol ac uchel eu parch o'r tîm rheilffordd ym Mhort Talbot".
"Gyda'i gilydd maen nhw wedi rhoi dros 84 mlynedd o wasanaeth i'r rheilffyrdd ac fe fyddan nhw'n cael eu colli," meddai.
"Rydym wedi penodi ymchwilydd annibynnol fydd yn cydweithio ag undebau llafur a phartneriaid yn y diwydiant i lunio'r tîm ymchwilio.
"Dyma enghraifft o ba mor beryglus y gall hi fod i weithio ar y rheilffyrdd ac mae'n adlewyrchu'r pwysigrwydd i herio unrhyw beth sy'n ymddangos yn beryglus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019