Beth yw Gemau'r Ynysoedd?

  • Cyhoeddwyd
ynys monFfynhonnell y llun, Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd, Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o dimau athletau, seiclo a bowlio deg Ynys Mon

Rhwng 6 a 12 Gorffennaf bydd rhai o gymunedau ynysoedd Ewrop a thu hwnt yn cymryd rhan yng Ngemau'r Ynysoedd 2019. Bydd gan Ynys Môn dîm yn cymryd rhan yn y gemau a fydd eleni yn cael eu cynnal yn Gibraltar.

Ond beth yn union yw Gemau'r Ynysoedd? Dyma ychydig o ffeithiau:

Pam cynnal y gemau?

Dechreuodd y gemau yn Ynys Manaw yn 1985 fel rhan o ddathliadau blwyddyn chwaraeon rhyngwladol yr ynys. Pymtheg ynys gymrodd rhan yn y gemau cyntaf yn y stadiwm chwaraeon yn Douglas, prifddinas Ynys Manaw.

Mae'r gemau yn cael eu cynnal bob dwy flynedd, gyda'r gemau nesaf yn Guernsey yn 2021, ac yna ar yr Ynysoedd Erch (Orkney) yn 2023.

Ym mis Mai'r llynedd fe ddechreuodd Ynys Môn y broses o wneud cais i gynnal y gemau yn 2025: hwn fyddai'r tro cyntaf erioed i'r gemau ddod i'r ynys.

Gyda digwyddiadau chwaraeon mawr fel arfer yn cael eu cynnal ym mhrifddinasoedd gwledydd, mae Gemau'r Ynysoedd i fod i roi cyfle i ardaloedd a fyddai efallai ddim yn cael y cyfle yn arferol i gystadlu ar lefel ryngwladol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd, Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o dim bowlio deg Ynys Môn 2019

Pwy sy'n cymryd rhan?

Bellach mae 24 o ynysoedd a thiriogaethau'n cymryd rhan y gemau. Mae hyn yn cynnwys ynysoedd yn Ewrop fel Jersey a Menorca, a hefyd gwledydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd fel Saint Helena, Ynysoedd y Cayman a Bermuda.

Y rhestr yn llawn: Åland, Alderney, Bermuda, Frøya, Gibraltar, Gotland, Guernsey, Hitra, Jersey, Menorca, Rhodes. Saaremaa, Sark, Saint Helena, Ynysoedd Allanol Heledd (Outer Hebredies), Ynysoedd y Cayman, Ynysoedd y Falkland, Ynysoedd Faroe, Ynys Môn, Ynys Manaw, Ynys Wyth, Yr Ynys Las (Greenland), Ynysoedd y Shetland, Ynysoedd Erch (Orkney)

Mae 27 ynys wedi cymryd rhan yn y gemau dros y blynyddoedd, ond mae tair ynys (y rhai gyda'r boblogaeth fwyaf sydd wedi cymryd rhan) bellach wedi gadael y gemau: Malta, Gwlad yr Iâ a Prince Edward Island yng Nghanada.

Beth yw'r campau?

Mae yna 18 camp chwaraeon fel rhan o'r gemau, ac mae'r ynys sy'n cynnal y gemau yn cael llwyfannu rhwng 12 ac 14 o'r campau.

Mae'r pedair camp sydd ddim yn cael eu llwyfannu gan yr ynys sy'n cynnal y gemau yn cael eu rhannu rhwng rhai o'r ynysoedd eraill sy'n cystadlu sy'n cael eu galw yn Inter Games. Mae Ynys Môn wedi cynnal yr Inter Games dair gwaith; gymnasteg yn 1999 a 2015, a phêl-droed yn 2019.

Yr holl gampau: athletau, badminton, gymnasteg, jiwdo, saethu, sboncen, nofio, pêl-fasged, pêl-foli, tenis, tenis-fwrdd, bowlio deg a threiathlon.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd, Ynys Mon
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o dîm Ynys Mon: Iolo, Mike, Alex, Dave, Steve a Tim

Tîm Ynys Mon

Bydd 87 o gystadleuwyr a swyddogion o Fôn yn cymryd rhan yn y gemau eleni.

Mi fydd Ynys Môn yn cystadlu yn naw o'r 14 o gampau fydd yn cael eu cynnal yn Gibraltar.

Timau mwyaf llwyddiannus

Jersey yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau. Maent wedi ennill 1,426 o fedalau, gan gynnwys 491 medal aur. Yn ail mae Ynys Manaw gyda 1,216 o fedalau, ac yna Guernsey gyda 1,203.

Ers dechrau'r gemau yn 1985 mae Ynys Môn wedi ennill 106 o fedalau; 27 medal aur, 33 arian a 46 efydd.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd, Ynys Môn

Meddai rheolwr tîm Ynys Môn, David Tommis: "Rydym ni'n edrych 'mlaen i gystadlu yng Ngemau Rhyngwladol yr Ynysoedd 2019 Natwest yn Gibraltar.

"Mae'n gyfnod cyffrous i chwaraeon yn Ynys Môn, ac mae cael ein goreuon yn cynrychioli'r ynys mewn cymaint o wahanol chwaraeon ar y llwyfan rhyngwladol yn ychwanegu at hynny.

"Mae hi am fod yn wythnos hynod fuddiol i bawb sy'n ymwneud â'r Gemau yn 2019, a 'da ni'n edrych 'mlaen i bawb fanteisio ar y cyfleoedd a chreu atgofion a chyfeillgarwch fydd yn parhau am flynyddoedd wedi i'r gemau orffen."

Hefyd o ddiddordeb: