Cynllun dedfrydau gor-drugarog yn 'annigonol'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn credu bod cynllun i adolygu dedfrydau trugarog yn "annigonol".
Mae cynllun dedfryd or-drugarog yn galluogi pobl i ofyn am adolygiad os ydyn nhw'n credu bod cosbau yn rhy garedig.
Dywedodd Arfon Jones bod angen ymestyn y cynllun, gan mai dim ond troseddau penodol fel llofruddiaeth, treisio a therfysgaeth sy'n rhan o'r gyfraith ar hyn o bryd.
Daw'r sylw wrth i ymchwil gan y BBC ddangos bod traean o'r ceisiadau i ymestyn dedfrydau trugarog yn cael eu gwrthod am nad yw'r troseddau'n gymwys i gael eu harolygu.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn ystyried ymestyn y cynllun.
O'r 3,499 cais i adolygu dedfryd or-drugarog yng Nghymru a Lloegr rhwng 2015 a 2018, cafodd 1,148 eu gwrthod yn syth am nad oedd y drosedd dan sylw yn rhan o'r gyfraith.
O dan y cynllun presennol yr unig droseddau sydd â dedfrydau all gael eu hadolygu ydy:
Llofruddiaeth;
Treisio;
Lladrad;
Rhai troseddau rhyw yn erbyn plant a cham-drin plant;
Twyll difrifol;
Troseddau cyffuriau difrifol;
Rhai troseddau'n ymwneud â therfysgaeth;
Troseddau casineb ar sail hil neu grefydd.
"Mae'r gyfraith yn annigonol ac mae hi mor bwysig bod y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o droseddau," meddai Mr Arfon.
Dywedodd y dylid cynnwys lawrlwytho a rhannu lluniau o gam-drin plant yn y gyfraith am ei fod "yr un mor niweidiol" ag ymosodiadau rhyw.
Yn ôl Llywodraeth y DU mae troseddwyr sy'n cymryd neu'n rhannu lluniau anweddus yn wynebu 10 mlynedd o garchar.
'Yr un yw'r difrod'
Cafodd cais ei wneud i adolygu dedfryd y gyrrwr a laddodd Carol Boardman - mam y seiclwr Olympaidd Chris Boardman - yn Sir y Fflint 2016.
Roedd Liam Rosney, 33, wedi cael ei ddedfrydu i 30 wythnos o garchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ôl cyfaddef achosi marwolaeth Ms Boardman yng Nghei Connah.
Ond cafodd y cais i adolygu'r ddedfryd ei gwrthod yn syth am nad yw gyrru'n ddiofal yn drosedd sy'n rhan o'r cynllun dedfryd or-drugarog.
Dywedodd Mr Boardman ei fod yn teimlo y dylai unrhyw ddedfryd ynglŷn ag achosi marwolaeth fod yn gymwys i gael ei adolygu.
"Gyda throseddau gyrru mae'r difrod sy'n cael ei achosi yn aml yn cael yr un effaith a petai rywun yn defnyddio cyllell," meddai.
"Yr un yw'r canlyniad - person wedi'u lladd mewn ffordd ofnadwy - ond rydych chi'n gweld nad yw troseddau gyrru'n cael eu trin yn yr un modd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod barnwyr yn dedfrydu'n gywir "yn y mwyafrif llethol o achosion", a bod y cynllun ar gael i gywiro unrhyw gamgymeriadau.
Ychwanegodd bod y cynllun eisoes wedi'i ymestyn yn 2017 i gynnwys troseddau'n ymwneud â therfysgaeth.
"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo yn ei maniffesto i ymestyn y cynllun ac mae hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019