Dim hawl i geffylau heb eu brechu gystadlu yn y Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sioe Frenhinol wedi dweud na fydd hawl i'r un ceffyl sydd heb ei frechu yn erbyn ffliw ceffylau gystadlu eleni yn dilyn cyfres o achosion o'r haint ledled Cymru.
Hyd yn hyn mae 24 achos o ffliw ceffylau wedi'u cadarnhau yng Nghymru ers dechrau'r flwyddyn.
Daw'r penderfyniad yn dilyn cyfarfod o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd bod y gymdeithas wedi dod i'r penderfyniad "yn dilyn asesiad o'r wybodaeth ddiweddaraf ac ar ôl derbyn cyngor proffesiynol".
'Penderfyniad anodd'
Dywedodd y llefarydd eu bod wedi ystyried canslo adran y ceffylau yn y Sioe, cyn penderfynu y bydd yn rhaid i'r holl geffylau sy'n bresennol fod wedi "eu brechu'n briodol yn erbyn ffliw ceffylau".
"Bydd y gymdeithas yn cyfathrebu'r penderfyniad yma i bob arddangoswr ceffylau ac y mae'n ymwybodol iawn o effaith y penderfyniad anodd hyn ar arddangoswyr," meddai'r llefarydd.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n Swyddogion Milfeddygol Proffesiynol, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ac arddangoswyr i leihau'r posibilrwydd o ledu y clefyd yma."
Yn dilyn pryderon am nifer cynyddol o'r haint cafodd Sioe Caernarfon, oedd i fod i ddigwydd ar 6 Gorffennaf, ei chanslo.
Cafodd rasys yng Nghae Rasio Ffos Las ger Llanelli eu canslo yn gynharach eleni hefyd oherwydd y pryderon.
Pryder bod mwy o achosion
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Iechyd Anifeiliaid yn dangos bod 160 o achosion o ffliw ceffylau wedi'u cadarnhau ar draws y DU ers dechrau'r flwyddyn - 24 o'r rheiny yng Nghymru.
Cafodd yr achos cyntaf yng Nghymru ei nodi yn Sir y Fflint ym mis Mawrth, a bu un achos yn Abertawe ym mis Mai.
Ond fis diwethaf cafodd 16 achos ei gadarnhau yma - yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Morgannwg Ganol, Sir Fynwy, Sir Gâr a Wrecsam.
Mae chwe achos arall wedi'u cadarnhau ers dechrau'r mis yma, gan gynnwys y diweddaraf ar Ynys Môn.
Ond gan nad oes gorfodaeth i adrodd achosion o ffliw ceffylau, mae pryder y gallai nifer yr achosion fod yn uwch mewn gwirionedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019