Crwner cwest Sargeant: 'Angen cefnogaeth i weinidogion'

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y crwner na fyddai'r achos yn cael ei ddylanwadu gan "y wasg, gan wleidyddiaeth neu gan bersonoliaethau"

Mae'r crwner yn y cwest i farwolaeth y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, wedi dweud y dylai mwy o gefnogaeth gael ei roi i weinidogion sy'n colli'u swyddi.

Fe wnaeth John Gittins ddod i'r casgliad fod Mr Sargeant wedi marw drwy grogi, a'i fod wedi lladd ei hun yn fwriadol.

Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones.

Ar y pryd roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod, honiadau roedd e'n ei wadu.

Dywedodd Mr Gittins fodd bynnag y byddai unrhyw un oedd yn disgwyl asesiad "damniol" o Mr Jones yn cael ei siomi.

Yn dilyn y cwest fe wnaeth mab Carl Sargeant, Jack, ddarllen datganiad ar ran y teulu yn dweud eu bod yn falch bod y broses ar ben.

Ond roedd yn feirniadol o Mr Jones, gan ddweud y byddai'r cwest wedi dod i ben ym mis Tachwedd llynedd pe bai'r cyn-brif weinidog wedi rhoi tystiolaeth "ddibynadwy".

Mewn datganiad dywedodd Mr Jones fod y cyfnod "wedi bod yn amser anodd i bawb" a'i fod yn cynnig ei "gydymdeimlad mwyaf" i'r teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y crwner yn cyflwyno adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol i'r llywodraeth yn ddiweddarach

Agorodd Mr Gittins y cwest drwy ddatgan ei fod "wedi addo ymchwiliad llawn a theg" ac na fyddai'r achos yn cael ei ddylanwadu gan "y wasg, gan wleidyddiaeth neu gan bersonoliaethau".

Ar adegau fe aeth "taith y cwest lawr rhai o lwybrau fwyaf tywyll y byd gwleidyddol", meddai.

Oherwydd effeithiau "digwyddiad yn ei fywyd" a'r "pwysau a ddaeth o'i swydd", cafodd Mr Sargeant ddiagnosis o iselder yn 2012.

Dywedodd bod Mr Jones yn ymwybodol o'r digwyddiad, ond nad oedd yn ymwybodol o unrhyw broblemau ar ôl hynny, er iddo weithio yn agos â Mr Sargeant.

Yn dilyn yr honiadau yn erbyn Mr Sargeant yn 2017 fe benderfynodd Mr Jones ei bod hi'n addas iddo gyfeirio'r mater at y Blaid Lafur, a diswyddo cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy o'r cabinet.

'Diffyg cefnogaeth'

Dywedodd Mr Gittins nad oedd unrhyw drefniant swyddogol i gefnogi Mr Sargeant wedi'r diswyddiad.

"Mae'r dystiolaeth yn amlygu'r ffaith nad oedd unrhyw drefniant swyddogol ar gyfer cefnogi Carl Sargeant wedi'r ad-drefnu, a hynny er gwaetha'r ffaith bod y prif weinidog fwy na thebyg yn ymwybodol o ba mor fregus oedd ei iechyd meddwl.

"Ac roedd hi'n debygol y byddai'r diswyddo, ac yn enwedig y rheswm tu ôl i'r diswyddo yn debygol o ddenu sylw yn y wasg... sefyllfa a fyddai heb os wedi cyfrannu at y pwysau oedd ar Mr Sargeant."

Dywedodd nad oedd y gefnogaeth a roddwyd gan Ann Jones AC gyfystyr â gofal bugeiliol, er i Carwyn Jones ddadlau i'r gwrthwyneb wrth roi tystiolaeth.

Yn ôl Mr Gittins, fe wnaeth Mr Jones - a gafodd ei gyhuddo gan deulu Mr Sargeant o ddweud celwydd wrth roi tystiolaeth - gywiro'r wybodaeth yr oedd wedi ei gyflwyno yn flaenorol mewn modd "cywir a phriodol".

Clywodd y cwest bod Mr Sargeant wedi ysgrifennu nodyn, cyn mynd ati i "grogi ei hun yn fwriadol".

Yn dilyn y cwest dywedodd Jack Sargeant fod y teulu'n "lwyr gefnogol" o adroddiad y crwner i atal marwolaethau yn y dyfodol, gan ychwanegu: "Mae'n rhy hwyr i Dad ond fe allai achub rhywun arall."

Ychwanegodd bod Carwyn Jones wedi bod yn "amddiffynnol, gochelgar a checrus" yn ystod y cwest.

"Rydyn ni hefyd yn ddig iawn am y diffyg edifeirwch gan y cyn-brif weinidog," meddai Jack Sargeant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack Sargeant bellach wedi olynu ei dad fel AC Alun a Glannau Dyfrdwy

Dywedodd Andy Sargeant, brawd Mr Sargeant: "Nid oes geiriau all egluro maint y golled... mae gwagle enfawr wedi ei adael ar ei ôl."

Yn dilyn y cwest dywedodd Mr Jones mewn datganiad: "Mae wedi bod yn amser anodd i bawb, yn enwedig y teulu, ac rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad mwyaf am golled sydd yn anochel yn parhau'n boenus iawn.

"Mae natur y gwrandawiad wedi golygu ei bod yn ymddangos fel bod dwy ochr i'r mater, a thra ei bod yn gywir bod dadleuon yn cael eu herio, mae'r broses wedi hollti pobl sy'n parhau'n unedig, o leiaf yn eu sioc, trawma a galar.

"Doedd neb eisiau hyn, ac ni fyddai unrhyw un wedi gallu ei ragweld.

"Mae hunanladdiad yn brofiad dinistriol, ac rwy'n gobeithio y gall y dolur ddechrau gwella nawr."

Bydd adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno i'r llywodraeth yn ddiweddarach.