Sargeant 'wedi ffonio swyddog Llafur cyn ei farwolaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi clywed fod y cyn-weinidog wedi ceisio ffonio swyddog yn y Blaid Lafur ar y bore y cafodd ei ganfod yn farw.
Cafodd Mr Sargeant wybod nad oedd Sam Matthews, swyddog anghydfodau'r blaid, ar gael i siarad gan ei fod mewn man cyhoeddus, ac y byddai'n cysylltu yn ôl.
Yn ddiweddarach y bore hwnnw, ar 7 Tachwedd 2017, cafodd y cyn-weinidog ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah.
Roedd wedi cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru bedwar diwrnod ynghynt gan y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, a hynny yn dilyn honiadau yr oedd yn eu gwadu o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.
Galwad ffôn
Clywodd y cwest dystiolaeth ysgrifenedig gan James Bailey, oedd yn gweithio ar linellau ffôn y Blaid Lafur ar y pryd, ddywedodd ei fod wedi cael galwad gan Mr Sargeant am 09:01 ar 7 Tachwedd.
Gofynnodd Mr Sargeant i gael siarad gyda Mr Matthews - rhywun yr oedd eisoes wedi siarad ag ef rai dyddiau ynghynt mewn cysylltiad â "chwyn ddifrifol iawn".
Fe aeth yr alwad trwodd i ffôn symudol Mr Matthews, ond gan ei fod ar drafnidiaeth gyhoeddus ar y pryd nid oedd am drafod y mater.
Cafodd tystiolaeth ysgrifenedig hefyd ei darllen gan Ian McNichol, ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur ar y pryd, ddywedodd ei fod wedi dod yn ymwybodol y diwrnod cyn diswyddiad Mr Sargeant bod tair cwyn yn ei erbyn.
Y diwrnod canlynol, pan gollodd Mr Sargeant ei swydd, fe gytunodd Mr McNichol y byddai'n "briodol" iddo hefyd gael ei wahardd o'r blaid.
Fe wnaeth y prif weinidog presennol, Mark Drakeford, hefyd roi tystiolaeth i'r cwest, gan ddweud bod newidiadau wedi cael eu gwneud i'r broses o ad-drefnu cabinet y llywodraeth ers marwolaeth Mr Sargeant.
Dywedodd ei fod wedi tynnu sylw gweinidogion at gefnogaeth oedd ar gael iddyn nhw drwy'r Cynulliad pan ddewisodd ei gabinet cyntaf ym mis Rhagfyr 2018.
Yn gynharach ddydd Mawrth, clywodd y cwest gais gan gyfreithiwr ar ran swyddfa'r prif weinidog i alw cyn-arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton i roi tystiolaeth.
Sail y cais hwnnw, meddai Cathryn McGahey QC, oedd tystiolaeth a roddwyd gan weddw Mr Sargeant, Bernadette, ddydd Mawrth.
Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth dywedodd Mrs Sargeant nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw lythyr dienw yn honni camymddwyn gan Mr Sargeant, oni bai am un.
Ond yn y cwest ddydd Mercher dywedodd Ms McGahey y gallai Mrs Sargeant fod wedi anghofio rhai manylion, a bod mwy nag un llythyr dienw wedi cael ei anfon.
Cyfeiriodd Ms McGahey at ddatganiad yr oedd y cwest eisoes wedi ei gael gan Mr Shotton, yn dweud ei fod wedi cael gwybod y diwrnod ar ôl marwolaeth Mr Sargeant nad oedd croeso iddo ymweld â chartref y teulu.
Dywedodd Mr Shotton ei fod wedi cael gwybod bod y teulu wedi derbyn llythyr dienw, a'i fod yn cymryd bod hynny'n gyfeiriad at lythyr gafodd ei dderbyn yn 2017 wedi i Mr Sargeant gael ei weld mewn gardd tafarn gyda menyw.
Yn ôl Ms McGahey, roedd hynny'n dystiolaeth bod "llythyr dienw arall" wedi ei anfon.
Fe wnaeth Mr Shotton hefyd grybwyll digwyddiad honedig ym mharti nos ei briodas yn ymwneud â Mr Sargeant, gan ychwanegu nad oedd ef ei hun wedi bod yn dyst iddo.
Ond cafodd hynny ei herio gan Leslie Thomas QC ar ran y teulu Sargeant, ddywedodd fod cais Ms McGahey i gael Mr Shotton i roi tystiolaeth i'r cwest yn "gamsyniad".
Ychwanegodd y crwner John Gittins bod dyfarniad eisoes wedi cael ei wneud ar y mater, a gwrthod y cais.
Roedd y cwest wedi cael ei ohirio'r llynedd ar ôl i gyfreithwyr ar ran Mr Jones wneud her gyfreithiol yn ymwneud â negeseuon rhwng Mr Shotton a'i ddirprwy ar y pryd, Bernie Attridge - her gafodd ei gwrthod yn y pendraw.
Yn ddiweddarach ddydd Mercher cafodd y crwner gais ar y cyd ar ran y cyfryngau i ryddhau'r negeseuon llawn rhwng Mr Shotton a Mr Attridge.
Dadl y cyfryngau oedd y byddai rhyddhau'r negeseuon o fudd i'r cyhoedd, gan eu bod yn ymwneud â honiad am ymddygiad Aelod Cynulliad [Mr Sargeant] ac y gallan nhw hefyd wrth-ddweud tystiolaeth gafodd ei roi dan lw gan gynghorydd [Mr Attridge].
Ond dywedodd Mr Shotton bod y negeseuon o "natur bersonol", ac y gallai eu rhyddhau achosi "embaras diangen" i'r teulu Sargeant.
Fe wnaeth y crwner wrthod y cais, gan ddweud bod y teulu'n haeddu "parch ac urddas" ac nad oedd angen y dogfennau ar y cyfryngau i allu adrodd ar y cwest yn llawn.
Ddydd Mawrth fe ddywedodd Mrs Sargeant wrth y cwest bod ei gŵr wedi teimlo bod Mr Jones wedi ei "adael i lawr".
Fe wnaeth hi hefyd ddisgrifio'r foment "erchyll" pan gafodd gadarnhad gan barafeddygon bod ei gŵr wedi marw.
Mae'r cwest hefyd wedi clywed tystiolaeth gan Ann Jones AC, wnaeth wadu ei bod hi wedi cael rôl fel gofalwr bugeiliol i Carl Sargeant yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.
Wrth roi ei dystiolaeth yntau i'r cwest, dywedodd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones ei fod yn credu bod Ms Jones yn gofalu am Mr Sargeant, a'i fod yn "synnu nad oedd hi'n gweld y sefyllfa yn yr un ffordd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2019