Cwest Carl Sargeant: AC yn gwadu rôl fel gofalwr bugeiliol
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad wedi gwadu fod ganddi hi rôl fel gofalwr bugeiliol i Carl Sargeant yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.
Cafodd Mr Sargeant, cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet Carwyn Jones.
Ar y pryd roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod, honiadau roedd o'n ei wadu.
Yn ystod y cwest i'w farwolaeth ddydd Llun, dywedodd AC Dyffryn Clwyd, Ann Jones ei bod hi wedi derbyn cais i gysylltu â Mr Sargeant ond dim ond ymddwyn fel ffrind wnaeth hi.
Cafodd y cwest ei ohirio'r llynedd ar ôl i gyfreithwyr ar ran Mr Jones wneud her gyfreithiol - her gafodd ei wrthod yn y pendraw.
Wrth i'r cwest ailddechrau yn Rhuthun fore Llun, dywedodd y crwner, John Gittins y byddai'n gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y cwest yn gorffen cyn diwedd yr wythnos, gan ei bod hi'n "annerbyniol" bod y mater yn "dal i bwyso'n drwm ar bobl".
Dywedodd Ms Jones bod gwleidyddion yn gyffredinol yn gallu bod yn "fregus".
Er nad oedd hi'n ymwybodol o iselder Mr Sargeant, nododd bod achlysuron lle fyddai ef yn dweud pethau fel "dydw i ddim yn gwybod be' dwi'n deimlo" neu "dwi ddim yn gwybod be' dwi'n 'neud" - ymddygiad yr oedd hi'n ei gredu oedd yn "gyffredin".
Wrth ymateb i gwestiwn am yr honiadau yn erbyn Mr Sargeant, dywedodd Ms Jones: "Roedd o wastad yn ymddwyn yn briodol ac yn broffesiynol gyda mi."
Clywodd y cwest bod Ms Jones wedi dod i wybod am ddiswyddiad Mr Sargeant o'r cabinet drwy wylio'r newyddion.
Dywedodd ei bod hi wedi anfon neges destun ato'n dweud: "Meddwl amdanat ti, arhosa yn gryf."
Nododd hefyd ei bod hi wedi derbyn neges gan Matt Greenough, cyn-ymgynghorydd i Mr Jones, yn dweud nad oedd Mr Sargeant wedi ymateb yn dda iawn i'r diswyddo.
"Dwi'n meddwl, gan fy mod i'n AC yn y gogledd-ddwyrain, mae pump ohonom ni. Roeddwn i'n ffrind i Carl ac roeddwn i'n ei weld o fel rhywun yn dweud 'edrycha ar ei ôl o'," meddai.
'Camarweiniol'
Ychwanegodd Ms Jones nad oedd hi wedi dehongli hyn fel rhywun yn gofyn iddi fod yn ofalwr bugeiliol.
Clywodd y cwest bod Mr Jones wedi cysylltu â hi ar y dydd Mercher yn dilyn marwolaeth Mr Sargeant yn dweud ei fod am ddweud wrth y wasg ei fod o wedi gofyn iddi hi ofalu am Mr Sargeant.
Fe ofynnodd Ms Jones wrtho i "beidio â gwneud hynny" oherwydd nid dyna'r ffordd yr oedd hi wedi dehongli neges Mr Greenough.
"Does gen i ddim hyfforddiant fel cynghorwr, does gen i ddim hyfforddiant fel gofalwr o gwbl. Mae'n siŵr fy mod i'n un o'r bobl waethaf ar gyfer rôl o'r fath," meddai.
Fe gytunodd Ms Jones â'r crwner wrth ddweud bod yr awgrym ei bod hi wedi derbyn rôl fel gofalwr bugeiliol yn "gamarweiniol".
"Doeddwn i ddim eisiau i bobl, yn enwedig y teulu, feddwl nad oeddwn i wedi cyflawni rôl oedd wedi cael ei roi i mi," meddai.
Dywedodd Ms Jones ei bod hi'n gweld Mr Sargeant fel Prif Weinidog posib yn y dyfodol: "Dwi'n meddwl bod Carl yn meddwl am y peth, ond dwi ddim yn siŵr pa mor ddifrifol oedd o."
Fe wnaeth Leslie Thomas QC holi am sgwrs rhwng Ms Jones a Mr Sargeant ar y dydd Llun cyn iddo farw. Dywedodd Mr Sargeant mewn un neges: "Dwi'n dweud wrth neb eto fy mod i'n meddwl am ymgeisio i fod yn brif weinidog."
Gofynnodd Mr Thomas os oedd y neges yn awgrymu bod Mr Sargeant yn teimlo ei fod wedi cael ei dargedu gan ei fod yn ystyried ceisio am yr arweinyddiaeth.
"Dydw i ddim yn ei ddarllen fel yna," meddai Ms Jones, ond nododd fod posib fod "rhai yn dehongli'r neges yn y ffordd yno".
Eisoes mae'r cwest wedi clywed fod Mr Sargeant wedi gadael llythyr yn ei gartref oedd yn dweud wrth ei deulu ei fod wedi "eu gadael nhw lawr".
Fe wnaeth Lesley Griffiths, gweinidog amgylchedd Llywodraeth Cymru, ddweud wrth y crwner y gallai mwy o ofal bugeilio fod wedi ei roi i Mr Sargeant.
Wrth roi tystiolaeth brynhawn Llun, dywedodd Mr Jones ei fod yn credu bod Ms Jones yn gofalu am Mr Sargeant.
"Ro'n i eisiau gwneud yn siŵr bod rhywun y gallai ef fod wedi siarad gyda... dyna yw'r norm," meddai.
Dywedodd mai ei ddiffiniad ef o ofal bugeiliol oedd "rhywun y mae'r person yn gallu ymddiried ynddyn nhw" a pe bai Mr Sargeant eisiau help neu gyngor, gallai ef fod wedi mynd at Ms Jones.
'Dim celu'r gwir'
Ychwanegodd ei fod eisiau trafod cwestiynau posib am y gofal gafodd ei gynnig i Mr Sargeant gyda Ms Jones fel mater o gwrteisi.
""Ro'n i wedi synnu nad oedd hi'n gweld y sefyllfa yn yr un ffordd," meddai.
"Roedden ni'n cael ein cwestiynu gan y wasg... yn bendant doedd hyn ddim yn gynllun i gelu'r gwir."
Dywedodd Mr Jones nad oedd yn "gallu gweld beth arall y gallwn i fod wedi'i wneud" ac na fyddai hi wedi bod yn "addas" iddo gysylltu â Mr Sargeant wedi'r diswyddo.
Ychwanegodd fod Mr Sargeant yn "ffrind" iddo a'i fod o eisiau digon o amser i "ddadansoddi'r sefyllfa" ar ôl ad-drefnu'r cabinet.
Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog wrthod honiadau ei fod wedi rhoi tystiolaeth "anonest" yn ystod y cwest.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2018