Arddangosfa i gofio dwy ysgol fydd yn cau yn Y Bala
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos yn nhref Y Bala bydd arddangosfa'n agor a fydd yn edrych ar hanes dwy ysgol gynradd sydd ar fin cau yn y dref.
Ym mis Medi bydd Ysgol gydol oes, Godre'r Berwyn yn agor yn swyddogol a bydd dwy ysgol gynradd - Bro Tegid a Beuno Sant yn cau, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd y Berwyn.
Bu brwydr hir yn ardal Y Bala i gael statws cymunedol i'r ysgol newydd yn hytrach nag un eglwysig fel oedd yn cael ei ffafrio gan Gyngor Gwynedd.
Ian Lloyd Hughes ydi swyddog arddangosfeydd Canolfan Cantref a dywedodd wrth Cymru Fyw bod talp mawr o hanes Y Bala yn yr arddangosfa.
"Tref gymharol fach ydi'r Bala wedi bod erioed," meddai, "ond mi fuodd na ddwy ysgol gynradd yma ers sefydlu'r ysgol eglwys neu'r national school yn 1873.
"Wedyn mi roedd 'na ysgol y British School, oeddan nhw'n galw hi lle mae Canolfan Bro Tegid heddiw ac yn 1905."
'Gwasanaeth arbennig o dda'
Ychwanegodd Mr Hughes ei bod hi'n ddiwedd cyfnod go iawn gan ddweud fod y ddwy ysgol gynradd wedi rhoi "gwasanaeth arbennig o dda."
Mae yna dros £11m wedi ei wario ar yr ysgol gydol oes newydd. Dywedodd Pennaeth Ysgol Godre'r Berwyn, Bethan Emyr:
"Ar un ystyr mae o reit drist a dweud y gwir.
"Mae'r ddwy ysgol wedi rhoi gwasanaeth arbennig o dda i'r dref ac i'r ardal hefyd, felly mi fydd 'na dristwch, ond dwi'n meddwl hefyd ddylen 'ni edrych ymlaen at y dyfodol a dymuno'r gore i'r ysgol newydd'.
"'Mae staff wedi eu penodi ar gyfer yr ysgol newydd a da ni'n sicr yn barod i agor yr ysgol newydd ym mis Medi.
"Mae gennym ni adeilad modern a bendigedig a phwrpasol i ddarparu addysg i blant y dalgylch a dwi'n ffyddiog iawn bod addysg yn ardal Y Bala a Phenllyn yn ddiogel iawn.
"Mae 'na fuddsoddiad sylweddol wedi bod yn addysg yr ardal. Dwi'n gwybod bod y staff i gyd a thân yn eu boliau erbyn hyn i gael agor ac i gychwyn fel Ysgol Godre'r Berwyn," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2017