Tynnu statws eglwysig oddi ar ysgol newydd Y Bala

  • Cyhoeddwyd
ysgol newydd bala
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o godi'r ysgol newydd yn Y Bala yn parhau

Ni fydd ysgol newydd yn Y Bala yn cael ei ddynodi'n ysgol Eglwys yng Nghymru yn dilyn penderfyniad gan gabinet Cyngor Gwynedd.

Roedd cynlluniau i agor ysgol eglwysig wedi achosi ffrae yn lleol, gyda nifer yn galw am ddynodi'r ysgol fel un cymunedol.

Mae'r gwaith yn parhau i adeiladu'r campws newydd gwerth £10m i blant 3-19 oed ar safle presennol Ysgol y Berwyn.

Ddydd Mawrth, fe wnaeth cabinet y cyngor bleidleisio'n unfrydol dros dynnu'r statws eglwysig oddi ar yr ysgol.

Dywedodd cynghorwyr y bydd argymhelliad am ddynodiad yr ysgol yn cael ei wneud ym mis Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynllun newydd yn gweld un campws mawr ar safle Ysgol y Berwyn

Y cynllun yw uno dwy o ysgolion cynradd y dref, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n ysgol eglwysig - gyda'r ysgol uwchradd.

Ond bu gwrthwynebiad mawr ym mhum plwy Penllyn i'r bwriad i ddynodi'r ysgol newydd yn ysgol eglwysig, ac fe wnaeth 500 o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r dynodiad.

Ym mis Chwefror gofynnodd Cyngor Gwynedd am farn corff llywodraethol chwech o ysgolion dalgylch Y Bala ynglŷn â'r statws, ac roedden nhw'n unfrydol eu barn am dynnu'r statws eglwysig a chael statws cymunedol.

Roedd cabinet Cyngor Gwynedd wedi cael eu hargymell y dylid tynnu'r statws eglwysig yn ôl.