Plant ysgol yn cael eu 'llosgi yn yr haul'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am bolisi Cymru gyfan ar gyfer ysgolion er mwyn sicrhau diogelwch plant rhag yr haul, gyda honiadau fod rhai wedi dioddef llosgiadau.
Dywedodd y mwyafrif o gynghorau gafodd eu holi gan BBC Cymru nad oedd un polisi ar gyfer pob ysgol, ond yn hytrach ei fod yn fater i ysgolion unigol.
Mae undebau yn cynghori athrawon i beidio rhoi eli haul ar blant, a dyw rhai ysgolion ddim yn caniatáu i ddisgyblion ddod ag eli eu hunain oherwydd pryderon ynglŷn ag alergedd.
Yn ôl rhai rhieni dyw rhoi eli unwaith y dydd cyn dechrau'r diwrnod ysgol ddim yn ddigon.
'Dylestwydd o ofal'
Dywedodd elusen Tenovus fod un achos o losgiad difrifol i blentyn yn gallu dyblu'r risg o ganser y croen, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n orfodol i ysgolion addysgu am ddiogelwch rhag yr haul.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae hi'n ddyletswydd ar ysgolion i sicrhau gofal i blant a llunio polisi lleol i ddelio â'r mater.
Mae Caitlin Sandford, 24 o Aberystwyth, yn dioddef o soriasis ar ei dwylo - cyflwr sy'n golygu na all hi roi eli haul ar ei phlentyn.
"Fe wnes i ddod ag eli i'r ysgol ond dywedodd yr athrawon nad oeddynt yn gallu ei roi, ac y byddai'r mab yn gorfod ei roi ei hunan," meddai
"Mae'n debyg na gafodd e help gan iddo ddod 'nôl gyda llosgiadau ar gefn ei wddf.
"Dwi'n deall bod yna bryder oherwydd alergedd ond os mai chi sy'n darparu'r eli, a bod eich plentyn yn cael anhawster i'w daenu, yna dylai'r athro helpu."
Ond dywedodd rhiant arall, oedd ddim am gael ei enwi, ei fod yn bryderus pe bai athrawon yn cael caniatâd ac y gallai hynny arwain at alergedd yn cael ei drosglwyddo.
'Ddim yn realistig'
Yng Nghaerffili, dywedodd Leigh O'Connor nad yw ysgol ei fab ef yn caniatáu iddyn nhw ddod ag eli i'r ysgol oherwydd pryderon am alergedd.
"Mae'n ymddangos fod gan bob ysgol bolisi gwahanol, " meddai.
"Dyw ysgol fy mab ddim yn ei ganiatáu, ac mae'n hunllef a dweud y gwir.
"Mae'n dwym iawn ac mae disgwyl i blant dreulio diwrnod cyfan heb roi mwy o eli. Dyw e ddim yn dderbyniol nac yn realistig."
Mae Cyngor Caerffili wedi cael cais am sylw.
Gwahanol bolisïau
Dywedodd y mwyafrif o gynghorau wnaeth ymateb i BBC Cymru ei fod yn fater i ysgolion unigol.
Dywed Cyngor Wrecsam eu bod wedi anfon canllawiau i benaethiaid ysgolion yn nodi ei bod yn "rhesymol" rhoi eli hypoalergenig pe na bai plentyn ag eli neu'n methu ei roi ei hunain.
Yn ôl Cyngor Conwy doedd staff ddim yn cael eu hatal rhag rhoi eli, ac ychwanegon nhw eu bod yn darparu polisi "diogelwch haul" i bob ysgol a bod hwnnw'n cael ei rannu gyda rheini.
Dywedodd Cyngor Powys ei fod yn fater i ysgolion unigol, ond eu bod yn darparu cyngor elusen Cancer Research UK sy'n cynnwys adran ar eli haul.
Yn ôl Ceredigion mae staff yn gallu helpu plant sy'n rhy ifanc i roi eli eu hunain cyn belled fod yna ganiatâd rhiant, ond unwaith eto roedd hyn yn fater i ysgolion unigol.
Dywedodd llefarydd ar ran Sir Fflint: "Mae ysgolion fel rheol yn cymryd pe bai plentyn yn dod ag eli haul, mae'n fater iddyn nhw ei roi yn hytrach nag aelod staff."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan ysgolion ddyletswydd gofal i ddisgyblion, ac fe ddylid trafod gyda rheiny er mwyn cytuno ar bolisi lleol ar gyfer eli haul fel bod modd mwynhau tywydd cynnes yn ddiogel."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn darparu cyngor fel rhan o'i Fframwaith Ysgolion Iach, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion roi sylw i hwn.
Yn ôl elusen canser Skcin, mae angen i eli haul gael ei roi o leiaf bob dwy awr.
Beth mae'r undebau'n ei ddweud?
Tra bod rhai cynghorau yn dweud fod hawl gan athrawon roi eli ar ddisgyblion pe bai angen, dywed undeb yr NUT eu bod yn cynghori athrawon i beidio gwneud hyn "oherwydd y potensial am honiadau o gam-drin" a hefyd yr amser y byddai hyn yn ei gymryd.
Dywedodd yr NUT pe bai ysgolion yn caniatáu i staff roi eli haul, dylid sicrhau caniatâd rhieni a dylai staff sy'n fodlon ei daenu ond ei osod ar wynebau, gwddw a breichiau.
Ychwanegodd llefarydd y dylid annog rhieni i ddarparu dillad addas a hetiau, dylai ysgolion newid y wisg a'r amserlen yn ôl yr angen yn yr haf a hefyd darparu mannau cysgodol.
Pam fod hyn yn bwysig?
Yn ôl Tenovus, yn ogystal â bod yn boenus mae melanoma (canser y croen) yn un o'r rhai mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar bobl rhwng 15 a 34 oed yn y DU.
Yn ôl y gwasanaeth iechyd mae tua 13,500 achos newydd o melanoma bob blwyddyn.
Dywedodd Maura Matthews o Tenovus fod yr elusen am i "bob plentyn yng Nghymru gael eu dysgu ynglŷn â sut i fod yn ddiogel yn yr haul" ac ei bod "am i Lywodraeth Cymru wneud hyn yn orfodol mewn ysgolion".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd9 Mai 2017
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019