Toriadau cerdd Cyngor Conwy yn 'ymosodiad ar addysg'

  • Cyhoeddwyd
Gwers gerddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai gwersi cerddoriaeth am ddim yn dal i gael eu cynnig i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim

Mae disgwyl i fwy o rieni yn sir Conwy orfod talu am wersi cerddoriaeth mewn ysgolion o ganlyniad i doriadau newydd gan y cyngor sir.

Byddai toriadau o 80% i'r gyllideb bresennol yn golygu bod yr arian sydd ar gael i gynnal y gwasanaeth yn disgyn o £327,000 i £61,000.

Bydd yr arian sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio i gynnig gwersi am ddim i blant sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Dywedodd y cynghorydd Julie Fallon, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg, bod y toriadau yn "anffodus" ond y byddan nhw'n arwain at system decach yn y pen draw.

Fe ddangosodd adroddiad gan bwyllgor addysg y cyngor nad oedd gan rai ysgolion ddigon o arian i gynnal gwersi cerdd, tra bod gan eraill "symiau nad oedd yn adlewyrchu anghenion yr ysgol o ran niferoedd y disgyblion na pha mor ddifreintiedig oedd hi".

Daeth i'r amlwg mewn ymgynghoriad bod y farn wedi'i hollti ymysg ysgolion ynglŷn â'r angen i newid y system bresennol ai peidio.

Dywedodd Ms Fallon: "Mae'r adroddiad yn dangos yr anghydraddoldeb o ran y ffordd mae'r cyllid yn cael ei ddosbarthu, ac mae'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan ysgolion o ran gwersi cerdd yn anghyson.

"Mae hyn yn gyfle i ni arbed arian yn ogystal â sicrhau bod costau gwersi cerddoriaeth mewn ysgolion yn fwy eglur."

'Agor drysau'

Nododd yr adroddiad hefyd y gallai'r newidiadau olygu bod teuluoedd sydd ag incwm isel, sydd ddim yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn cael eu hannog i beidio â thalu am wersi i'w plant.

Dywedodd arweinydd y grŵp Llafur o fewn y cyngor, Chris Hughes, y byddan nhw'n "gwrthwynebu'r ymosodiad systematig yma ar addysg ein plant".

"Mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o unrhyw gwricwlwm ac unrhyw economi leol," meddai.

"I nifer o bobl ifanc, mae cerddoriaeth yn gallu agor drysau i brofiadau dysgu ehangach"

Yn ôl arweinydd grŵp Plaid Cymru, Wyn Ellis Jones, "mae hi'n angenrheidiol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r gwasanaeth".