Toriadau'n 'bygwth' gwersi cerddorol ysgolion Ceredgion
- Cyhoeddwyd
Mae 1,200 o ddisgyblion yng Ngheredigion yn wynebu ansicrwydd ynghylch dyfodol eu gwersi cerddorol wrth i benaethiaid ystyried toriadau o 68% i'r gwasanaeth y flwyddyn nesaf, yn ôl ymgyrchwyr.
Daw wrth i Gyngor Ceredigion ystyried toriadau o £250,000 i wasanaethau ysgolion, fel rhan o doriadau o £6m gan y cyngor yn gyffredinol i sicrhau cydbwysedd yn y gyllideb.
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn cynnal tîm o athrawon a thiwtoriaid cerdd teithiol sy'n cynnig gwersi offerynnol a chanu yn y 46 ysgol yn y sir, yn ogystal â threfnu bandiau, corau a cherddorfeydd.
Pryder Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion yw y bydd toriadau yn bygwth dyfodol corau a grwpiau offerynnol, yn creu ansicrwydd mawr ynghylch dyfodol gwersi cerdd, ac yn golygu costau uwch i rieni.
Dywedodd y cyngor nad oedd yn fwriad dod â'r gwasanaeth i ben, ac y byddai'n ceisio gwneud arbedion "heb gyfaddawdu ar yr ansawdd".
'Ergyd farwol i gerddoriaeth'
Dywed y grŵp ymgyrchu iddynt godi miloedd o bunnau er mwyn helpu i brynu offerynnau ac nawr maen nhw'n addo "brwydro yn erbyn y toriadau arfaethedig i'r gwasanaeth uchel ei barch hwn, gwasanaeth sydd wedi cynhyrchu cerddorion byd-enwog megis y delynores Catrin Finch".
"Ry'n ni i gyd yn ymwybodol ei bod hi'n amser caled ar lywodraeth leol, ond go brin bod modd cyfiawnhau toriadau mor enfawr i un gwasanaeth, toriadau sy'n debygol o fod yn ergyd farwol i gerddoriaeth ymhlith pobl ifanc Ceredigion," meddai'r ysgrifennydd, Angharad Fychan.
Ychwanegodd ei fod yn "anochel" y byddai'r toriadau yn golygu "diswyddiadau o fewn y tîm bychan o diwtoriaid ymroddedig sy'n gweithio mor galed i roi cyfleoedd i blant yr ardal".
Yn ogystal â chostau uwch i rieni, dywedodd bod "perygl gwirioneddol y bydd cynlluniau Ceredigion yn troi cerddoriaeth yn beth elitaidd, sy'n mynd yn gwbl groes i'n gwerthoedd a'n traddodiadau ni yng Nghymru".
"Mae yna gynnydd o 7% wedi bod yn nhreth y cyngor ac fe oedden nhw'n cyfiawnhau hyn drwy ddweud eu bod am amddiffyn addysg, ac wedyn rydym yn clywed am y toriadau yma."
Gwersi 'hanfodol'
Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru dywedodd y gantores Gwawr Edwards ei bod hi wedi elwa o'r gwasanaeth a bod y "gwersi cerddoriaeth maen nhw'n golli yn hanfodol".
"Mae rhestr o'r cyfleoedd sydd ar gael i blant sy'n elwa mas o wersi yn ddiddiwedd, mae'n rhoi hyder a phethau fel 'na iddynt."
Fe wnaeth Cyngor Ceredigion arbedion o £106,000 ar gyfer y flwyddyn 2018/19 ar gyfer y gwasanaeth ysgolion, ac yn ôl adroddiad gan swyddogion roedd hyn o ganlyniad i arbedion o ran y ddarpariaeth cerddoriaeth ac o "ran tynnu swyddi o'r strwythur staffio".
Dywedodd Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg Ceredigion, mai'r nod ar gyfer 2019/20 yw sicrhau arbedion o £250,000.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor ei fod yn "cydnabod yn agored y safonau rhagorol" sydd wedi eu cyrraedd gan bobl ifanc y sir, ond bod rhaid arbed arian.
Ychwanegodd y datganiad ei fod yn "destun gofid bod adroddiadau anghywir a chamarweiniol" wedi eu cyhoeddi, a bod y cyngor yn "edrych yn ofalus iawn" ar wneud arbedion heb effeithio'r safon.
"Bydd nifer o fodelau darparu gwahanol yn cael eu hystyried dros yr wythnosau nesaf a fydd yn cynnal mynediad at wersi ac yn lleihau cost cyffredinol y gwasanaeth.
"Pa bynnag fodel darparu y cytunir arno, rhagwelir y bydd Ceredigion yn parhau i fod ymhlith y darparwyr gwasanaeth cerdd sy'n cael eu hariannu orau yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2015