Mwy o gwynion am y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod mwy o gwynion wedi cael eu gwneud am gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru nag erioed o'r blaen.
Mae adroddiad blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2018/19 yn dangos bod cwynion am gyrff y GIG (sef Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, Meddygon Teulu a deintyddion) wedi cynyddu 9% ers y flwyddyn flaenorol - gan godi o 924 i 1007.
Fe gododd y cwynion am Fyrddau Iechyd 4% - roedd yna gynnydd sylweddol yn y cwynion am Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg (i fyny 15%) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (i fyny 11%).
Derbyniodd yr Ombwdsmon 2489 o gwynion i gyd - 10% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Ar 23 Gorffennaf bydd deddfwriaeth newydd yn dod i rym a fydd yn caniatáu i swyddfa'r Ombwdsmon ymchwilio i gorff cyhoeddus os ydyn nhw'n credu bod hynny o ddiddordeb i'r cyhoedd, yn hytrach na gorfod derbyn cwyn cyn cynnal ymchwiliad.
Bydd y pwerau newydd hefyd yn rhoi hawl i'r Ombwdsmon ymchwilio i gwynion gan gleifion sydd wedi derbyn rhan o'u gofal mewn ysbyty neu glinig preifat.
Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasnaethau Cyhoeddus yng Nghymru, Nick Bennett: "Mae'r cynnydd yn y cwynion cysylltiedig ag iechyd - sydd bellach yn 41% o lwyth gwaith y swyddfa - yn bryder real.
"Mae cwynion am ofal iechyd yn gymhleth a sensitif ac felly maent yn bump gwaith yn fwy tebygol o angen ymchwiliad na chwynion eraill cysylltiedig a gwasanaethau cyhoeddus.
"Mae'r achosion yma yn aml yn gymhleth gan bod rhaid cael cyngor clinigol cyn gwneud penderfyniad.
"Mae'n bryder bod un o bobl deg cwyn a wnaed am gyrff y GIG yn ymwneud â delio â chwynion.
"Rwy'n gobeithio y bydd y pwerau newydd yn gallu datrys a lleihau'r cwynion."
Roedd yna hefyd gwynion am bolisïau tai, delio â chwynion, y gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio ac adeiladu.
Fe gododd y cwynion am aelodau o awdurdodau lleol 4% o 270 i 282 - roedd yna gynnydd sylweddol (14%) yn y cwynion am gynghorwyr tref a chymuned.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018