Cefnogwyr CPD Cefn Albion yn ddieuog o ymddygiad hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr CPD Cefn Albion wedi eu cael yn ddieuog o ymddwyn yn hiliol yn ystod gêm yn rownd gynderfynol Tlws CBDC.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhuddo'r cefnogwyr yn dilyn ymchwiliad i ddigwyddiadau honedig mewn gêm rhwng Cefn Albion, o Wrecsam, a STM Sports, o Lanrhymni, ar 16 Mawrth.
Yn dilyn y gêm ym Mharc Latham, Casnewydd fe wnaeth dau o chwaraewyr STM Sports ddweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan gefnogwyr y gwrthwynebwyr.
Ond yn dilyn gwrandawiad y panel disgyblu, dywedodd CBDC eu bod nhw wedi "ystyried yr holl dystiolaeth yn ofalus" ac wedi penderfynu nad oedd modd profi'r cyhuddiad yn erbyn Cefn Albion.
Roedd Cefn Albion hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fethu â rhwystro eu cefnogwyr rhag mynd ar y cae, a methu â rhwystro eu cefnogwyr rhag ymddwyn yn dreisgar neu'n fygythiol.
Fe gafwyd y clwb yn euog o'r ddau gyhuddiad yma a bydd rhaid iddynt dalu dirwy a chostau ychwanegol.
Fe benderfynodd y panel bod STM Sports hefyd yn euog o fethu â rhwystro eu cefnogwyr rhag ymddwyn yn dreisgar neu'n fygythiol.
Mae STM Sports hefyd yn wynebu gorfod talu dirwy a chostau.
Bydd modd i'r ddau glwb apelio'r penderfyniadau hyn drwy wneud cais i banel apelio CBDC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019