Gohirio deddf am daliadau amaeth newydd tan o leiaf 2021

  • Cyhoeddwyd
Llyn MymbyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i ffermwyr Cymru aros cyn cael clywed y cynlluniau am daliadau cymorth ar ôl Brexit

Ni fydd deddfwriaeth sydd ei hangen er mwyn cynnig taliadau yn lle cymorthdaliadau o'r Undeb Ewropeaidd nawr yn cael ei chyflwyno tan ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio cyflwyno newidadau fesul dipyn i gyflwyno'r taliadau ôl-Brexit.

Ond bellach mae'n annhebygol y bydd deddfwriaeth ar gyfer cynlluniau cefnogaeth ffermydd yn digwydd tan ar ôl yr etholiad yn 2021.

Mae oedi hefyd cyn cyflwyno mesurau amgen i warchod yr amgylchedd wrth i drafodaethau gyda gweinidogion Llywodraeth y DU gael eu cynnal.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyflwyno ei raglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i ddatganiad Mr Drakeford gadarnhau oedi wrth gyflwyno system newydd o daliadau amaeth.

Yn wreiddiol roedd ei lywodraeth am gyflwyno mesurau newydd fesul dipyn, gan gynnwys un cynllun i gymryd lle cymhorthdal o'r Undeb Ewropeaidd, o 2021, ond mae ansicrwydd am Brexit wedi gorfodi oedi.

Mae ail ymgynghoriad ar gynlluniau newydd ar y gweill, gydag addewid o un arall yn yr hydref.

Dywedodd Plaid Cymru mai dyma'r "penderfyniad cywir" ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r newidiadau wedi cael eu cadw'n ôl.

Yn ôl eu llefarydd ar faterion gwledig, Llyr Gruffydd: "Rydym wedi bod yr unig blaid yn y Cynulliad sydd wedi galw ar y Llywodraeth i adael i bethau setlo ar ôl Brexit cyn cyflwyno deddfwriaeth unwaith-mewn-cenhedlaeth i newid taliadau cymorth amaethyddol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau i roi pleidlais i bobl 16 ac 17 oed mewn etholiadau cyngor

Ymysg cynlluniau eraill posib mae rhoi pleidlais i bob 16 ac 17 oed mewn etholiadau cyngor, a dileu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) gan greu corff newydd - Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - yn ei le.

Gallai mesur sy'n ymestyn y cyfnod gan landlordiaid cyn cymryd perchnogaeth yn ôl o'u heiddo hefyd gael ei gyflwyno.

Cafodd Mr Drakeford ei gyhuddo o wneud addewidion gwag gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Dywedodd: "Mae'n ddigalon ar ôl 20 mlynedd o lywodraethu yng Nghymru bod rhaglen Llafur yn dal i gynnig yr un hen syniadau methedig wedi eu haildwymo."

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae'n "rhaglen ddeddfu di-liw gan lywodraeth Lafur sy'n amlwg wedi rhedeg allan o'u syniadau eu hunain".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Brexit fod y rhaglen yn "dweud cymaint am lle na fydd yn deddfu ag y mae am lle y bydd yn deddfu".