Llywodraeth am ddiwygio'r diwydiant bysiau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bws LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion eisiau cyflwyno system debyg i'r un yn Llundain

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno newidiadau mawr i'r diwydiant bysiau yng Nghymru.

Mae gweinidogion eisiau rhoi hwb i wasanaethau drwy ddefnyddio system debyg i'r un a ddefnyddir yn Llundain - lle mae cwmnïau yn cystadlu er mwyn ennill cytundebau penodol.

Byddai'r drefn newydd yn golygu bod cynghorau sir yn gallu dewis pa wasanaethau fyddai ar gael i'r cyhoedd, yn hytrach na'r cwmnïau bysiau.

Mae rhai wedi mynegi pryder y gallai'r system newydd gael effaith niweidiol ar fusnesau.

Byddai'r cynlluniau hyn yn rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru gafodd ei chyhoeddi brynhawn Mawrth.

Ar hyn o bryd mae modd i gwmnïau dderbyn cymorthdaliadau er mwyn cynnal llwybrau amhoblogaidd, ond yn gyffredinol mae ganddynt ryddid i benderfynu pa lwybrau maen nhw'n ei gynnig i'r cyhoedd.

Mae'r llywodraeth eisiau newid y drefn fel bod gan yr awdurdodau lleol hawl i ddewis pa lwybrau sydd yn rhan o wahanol wasanaethau.

Bydd gan gynghorau'r hawl hefyd i gynnal gwasanaethau eu hunain - a hynny am y tro cyntaf ers yr 1980au.

'Diffyg cyllid'

Yn ystod ymgynghoriad yn gynharach eleni, fe benderfynodd cwmnïau bysiau eu bod nhw'n gwrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth.

Dywedodd Bysiau Caerdydd, un o'r ddau wasanaeth sy'n cael ei redeg gan gynghorau yng Nghymru, y gallen nhw golli eu busnes i gyd i gwmnïau mwy.

Yn ôl y Consortiwm Trafnidiaeth Gyhoeddus, "ni allai'r cynllun newydd ddatrys y broblem sylfaenol, sef diffyg cyllid y cynghorau sir".

"Nid oes angen rheolaeth gadarnach er mwyn datrys problemau trafnidiaeth, mae modd datrys y rhain drwy sicrhau fod gan gynghorau gyllideb ddigonol, bod digon o arbenigedd yn lleol a drwy gydweithio a phartneriaid."