Bygwth defnyddio asiantaeth i gasglu dyledion cinio ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y ForydFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion rhwng 3 a 7 oed sydd yn mynychu Ysgol y Foryd

Fe all rhieni disgyblion mewn ysgol fabanod yng Nghonwy gael eu targedu gan asiantaeth casglu dyledion am beidio talu am ginio ysgol eu plant.

Daw rhybudd Ysgol y Foryd ar ôl i Gyngor Sir Conwy gynghori ysgolion i fod yn "fwy llym" wrth gasglu dyledion cinio ysgol yn sgil cyfnod o doriadau ariannol.

Mae rhieni'r ysgol ym Mae Cinmel hefyd wedi cael rhybudd y byddai modd gohirio mynediad eu plant at rai gwasanaethau os nad yw'r dyledion yn cael eu talu.

Os yw'r ddyled yn fwy na £10 nid oes modd i'r disgybl brynu bwyd yn yr ysgol ac mae'n bosib y bydd rhaid i rieni ddelio ag asiantaeth casglu dyledion.

Mae'r dyledion hyn hefyd yn gallu cynnwys taliadau am glybiau ar ôl ysgol, tripiau neu wahanol weithgareddau.

Yn ôl pennaeth Ysgol y Foryd, Nicola Rowlands, mae'n rhaid i'r dyledion gael eu talu cyn i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

'Gwanhau'r sefyllfa ariannol'

Mewn llythyr at rieni, nododd Ms Rowlands bod diffyg ariannol yn golygu nad oes gan yr ysgol ddigon o arian i gynnal y lefel angenrheidiol o staff ac adnoddau.

Ychwanegodd y llythyr: "Os nad yw'r dyledion yn cael eu talu erbyn y dyddiad hwn, bydd Cyngor Conwy wedyn yn gyfrifol am gasglu'r arian ar ein rhan - ac o bosib bydd asiantaeth casglu dyledion yn cael eu defnyddio.

"Yr ysgol fydd yn gorfod talu am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chasglu'r ddyled, a byddai hynny felly yn gwanhau ein sefyllfa ariannol."

Dywedodd Cyngor Conwy: "Cyfrifoldeb yr ysgol yw casglu arian am ginio ysgol. Mae'r awdurdod lleol yn annog ysgolion i reoli dyledion cinio ysgol yn effeithiol, a dylai unrhyw rieni/gofalwyr sydd â thrafferthion ariannol gysylltu â'r ysgol mor fuan â phosib."