Tocynnau Eisteddfod am ddim wedi mynd o fewn diwrnod
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod yn dweud bod miloedd wedi ymweld â'r Ŵyl am y tro cyntaf llynedd yng Nghaerdydd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod pob un o'r 6,000 o docynnau gafodd eu cynnig am ddim i bobl Sir Conwy bellach wedi mynd.
Roedd y tocynnau ar gael ar gyfer dydd Sul agoriadol y Brifwyl yn Llanrwst eleni, gyda'r bwriad o ddenu pobl leol sydd heb fod i'r Eisteddfod o'r blaen.
Cafwyd cyllid o £50,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal y cynllun, gyda'r gobaith o efelychu Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd pan ymwelodd miloedd â hi am y tro cyntaf.
Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: "Dyma gyfle gwych i bobl Sir Conwy ymuno yn y digwyddiad cyffrous hwn sy'n dathlu Cymru."
Ychwanegodd Ms Morgan: "Mae gan Llywodraeth Cymru gynllun uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
"Er mwyn cyrraedd y nod, rhaid inni greu cyfleoedd i bobl glywed yr iaith a'i defnyddio yn eu bywydau bob dydd ac mewn pob math o leoliadau cymdeithasol.
"Bydd yr arian 'dw i'n ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd teuluoedd lleol yn gallu mynd i ddydd Sul agoriadol yr ŵyl am ddim.
"Dw i'n gobeithio y bydd hyn yn gyfle iddyn nhw fwynhau diwylliant Cymru, ac efallai mewn rhai achosion newid eu syniadau o beth ydy'r Eisteddfod - sef cyfle i ddathlu Cymru, ei phobl, a'i thraddodiadau diwylliannol."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: "Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad cynhwysol sy'n cynnig cyfle ffantastig i bobl o bob cefndir gael profiad o'r Gymraeg ar waith.
"Felly rydyn ni'n awyddus i fachu ar bob cyfle i gyflwyno'r digwyddiad, a'r profiadau y mae'n eu cynnig, i bobl newydd.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i'r Eisteddfod, ac yn enwedig y tro hwn am y gefnogaeth i'n hymdrechion i agor y drysau a chroesawu hyd yn oed mwy o bobl i deulu mawr yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Byddwn ni'n trafod ffyrdd addas o ddosbarthu'r tocynnau gyda phartneriaid perthnasol. Ein nod yw sicrhau bod cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy yn gyfle i deuluoedd ddod yn fwy cyfarwydd â'r Gymraeg a'r diwylliant sy'n gysylltiedig â hi."

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol fod yn Llanrwst oedd yn 1989
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017