Pryder am effaith y cwricwlwm newydd ar gyrhaeddiant

  • Cyhoeddwyd
cinio ysgolFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd roedd bron i 65,000 o blant rhwng pump a 15 oed yn derbyn cinio ysgol am ddim yng Nghymru

Mae bron i ddau o bob tri o'r athrawon sydd wedi treialu'r cwricwlwm newydd yn teimlo na fydd yn fuddiol i ddisgyblion llai breintiedig, yn ôl arolwg newydd.

Dim ond 30% o'r 600 o athrawon mewn "ysgolion arloesi" a holwyd gan Brifysgol Caerdydd oedd yn meddwl byddai'r drefn newydd yn fuddiol.

Ond roedd 64% o'r 204 o athrawon mewn ysgolion gyda'r niferoedd uchaf o ddisgyblion difreintiedig, o'r farn y byddai'r newidiadau o fudd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y byddai'r cwricwlwm newydd yn gwneud addysg "yn fwy perthnasol i ddisgyblion."

Nod y cwricwlwm yw ailystyried sut y dylai pobl ifanc gael eu haddysgu, ac mae'n cyflwyno chwe maes dysgu eang.

Bydd ymgynghoriad ar y drefn newydd yn para tan 19 Gorffennaf, ac mae disgwyl i'r fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr.

Y bwriad yw cyflwyno'r drefn newydd mewn ysgolion cynradd yn 2022, ac mewn ysgolion uwchradd pedair blynedd yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Newton yn pryderu y gallai'r cwricwlwm newydd ddwysau rhaniadau o fewn ysgolion

Dywedodd Nigel Newton o Brifysgol Caerdydd wrth raglen radio BBC Eye on Wales bod canfyddiadau'r arolwg yn "ofnadwy".

"Dy'n ni ddim angen sefyllfa ymhen deg mlynedd lle bydd disgyblion mewn rhai ysgolion yn gadael heb wybod beth mae disgyblion eraill yn ei wybod," meddai.

"Fe allai'r cwricwlwm newydd yma ddwysáu rhaniadau o fewn ysgolion, a rhwng gwahanol grwpiau o ddisgyblion."

O'r disgyblion sy'n cael cinio am ddim dim ond 32% sy'n llwyddo i gael pump neu fwy TGAU ar lefel C neu yn uwch - gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg - o'i gymharu â 64% o blant na sy'n gymwys i gael cinio am ddim.

'Cau'r bwlch cyrhaeddiant'

Cafodd cymorthdaliadau eu cyflwyno yn 2016, oedd yn rhoi mwy o arian i ysgolion yn ôl niferoedd y disgyblion oedd â hawl i ginio am ddim.

Dywedodd Ms Williams: "Dwi ddim yn credu y dylai cyflog eich rheini benderfynu eich tynged addysgiadol, ac rydym wedi ceisio mynd i'r afael â hynny."

Yn ôl Dr Newton, mae tystiolaeth yn dangos fod trafod gyda rhieni, helpu wrth symud o'r cynradd i uwchradd, ac osgoi gosod disgyblion mewn setiau i gyd yn gallu helpu wrth gau'r bwlch cyrhaeddiant.

Ychwanegodd: "Ond pan wnaethon ni ofyn i athrawon mewn ysgolion arloesol, doedd y pethau hyn ddim ar flaen eu meddwl. Doedden nhw ddim yn cynllunio ac mae hynny'n bryder, oherwydd heb gynllunio a meddwl o flaen llaw, bydd y pethau hynny ddim yn digwydd."

Be fydd rhaglen Eye on Wales yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales am 18:30 17 Gorffennaf.