Cwest i farwolaethau dau gafodd eu taro gan drên yn agor
- Cyhoeddwyd

Bu farw Gareth Delbridge a Michael Lewis yn y digwyddiad ddydd Mercher diwethaf
Mae ymchwiliad crwner wedi dechrau i farwolaethau dau weithiwr gafodd eu lladd ar ôl cael eu taro gan drên ger Port Talbot yr wythnos ddiwethaf.
Clywodd Llys Crwner Abertawe bod Gareth Delbridge, 64 o Fynydd Cynffig, a Michael Lewis, 58 oed o Ogledd Corneli yn gweithio ar y trac pan gafodd y ddau eu taro.
Dywedwyd bod y trên wedi gadael gorsaf Port Talbot Parkway ar fore 3 Gorffennaf, a bod tri o bobl wedi'u gweld ar y rheilffordd wrth iddi droi cornel ger Margam.
Clywodd y cwest bod "gyrrwr y trên wedi canu'r corn, dechrau prosesau argyfwng a rhoi'r brêcs ymlaen" ond bod dau o'r rheiny oedd ar y traciau wedi cael eu taro.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng gorsafoedd Y Pîl a Phen-y-bont
Dywedodd Ian Trantum o Heddlu Trafnidiaeth Prydain bod ymchwiliadau wedi dechrau ganddyn nhw, Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd a'r Swyddog Rheilffyrdd a Ffyrdd, a bod yr ymchwiliadau hynny'n debygol o bara 12 mis.
Clywodd y cwest bod camerâu cylch cyfyng o'r trên yn cael eu harchwilio a bod tystion yn cael eu cyfweld.
Dywedwyd hefyd bod profion post mortem wedi cael eu cynnal ond nad yw'r adroddiadau terfynol yn barod eto.
Fe wnaeth y crwner Colin Phillips ohirio'r cwest am y tro, a bydd adolygiad arall ymhen chwe mis.
Mae cyrff Mr Delbridge a Mr Lewis wedi cael eu rhyddhau er mwyn i'r angladdau gael eu cynnal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019