Mwy o dâl ddim yn denu mwy o feddygon teulu
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynnig o dâl ychwanegol ac e-byst sy'n ymbil ar feddygon teulu i weithio y tu allan i oriau wedi methu â denu digon o weithwyr gofal i ddiwallu'r angen, yn ôl adroddiad gan bwyllgor Cynulliad.
Mae aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi mynegi pryder ynghylch morâl isel doctoriaid sy'n gweithio dros nos ac ar benwythnosau.
Clywodd y pwyllgor bod un bwrdd iechyd wedi cynnig £16,000 o gymhellion ar un penwythnos penodol i ddenu staff i weithio y tu allan i oriau ond nad oedd yr ymdrech yn llwyddiannus.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio denu mwy o feddygon teulu i weithio yng Nghymru.
Cau 99 o ganolfannau
Tra bod tâl yn ffactor, clywodd y pwyllgor mai'r prif bryder sydd gan staff ydy gorfod gweithio ar eu pennau eu hunain.
Mae'r broblem ar ei gwaethaf mewn ardaloedd gwledig ble mae meddygon yn gorfod teithio'n bellach a gweithio heb gymorth, meddai'r pwyllgor.
Yn ôl yr adroddiad fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - sy'n gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion - gynnig gwerth £16,000 o gymhellion i lenwi bylchau staffio ar un penwythnos, ond heb lwyddiant.
Bu'n rhaid i'r un bwrdd iechyd gau 99 o ganolfannau gofal y tu allan i oriau rhwng Mai 2017 a Mawrth 2019 o ganlyniad i brinder staff.
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain wrth y pwyllgor bod ei haelodau'n derbyn e-byst a negeseuon testun yn rheolaidd gan gydlynwyr gwasanaethau y tu allan i oriau yn gofyn iddynt weithio ond bod bylchau'n parhau.
'Problemau parhaus'
"Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn bod problemau parhaus sy'n golygu bod gwasanaethau y tu allan i oriau yn lleoedd anneniadol i weithio ynddynt," meddai'r adroddiad.
"Mae morâl staff mewn gwasanaethau y tu allan i oriau yn her o gofio'r dystiolaeth gref a glywyd nad yw gwella morâl staff yn ymwneud yn fawr â chynnig cymhellion ariannol.
"Yn hytrach, i ni mae'n amlwg bod yr amgylchedd gwaith yn cael mwy o effaith ar forâl oherwydd pryderon am waith unigol, gweithio dan bwysau oherwydd sifftiau heb eu llenwi a pheidio â theimlo'n rhan o dîm sy'n cael ei werthfawrogi."
Ychwanegodd cadeirydd y pwyllgor, Nick Ramsay bod "enghreifftiau yng Nghymru o fyrddau iechyd yn mabwysiadu dull gweithredu gwahanol ym maes gwasanaethau y tu allan i oriau, yn aml gyda thimau aml-ddisgybledig i rannu'r baich".
"Hoffem weld yr enghreifftiau hyn o arfer gorau yn cael eu rhannu ar draws y wlad ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau â'i hymdrechion i ddarparu gwasanaeth sy'n gweithio i staff a chleifion," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio denu mwy o feddygon teulu i Gymru a bod gwaith yn digwydd i annog doctoriaid i weithio y tu allan i oriau.
Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn ystyried argymhellion y pwyllgor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019