Trin marwolaeth bachgen, 13, mewn afon 'fel dynladdiad'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i farwolaeth bachgen 13 oed gafodd ei ddarganfod mewn afon rai wythnosau yn ôl yn cael ei gynnal yn debyg i "ymchwiliad o ddynladdiad", yn ôl elusen sy'n cefnogi'r teulu.
Cafodd corff Christopher Kapessa ei ddarganfod yn afon Cynon, Fernhill, Aberpennar ar 1 Gorffennaf.
Mae'r heddlu bellach yn dweud fod tîm ymchwilio troseddau mawr yn delio â'r achos.
Dywedodd Hilary Brown o Race Alliance Wales, sy'n cefnogi mam Christopher, Alina a'i theulu: "Rydym yn deall bod yr ymchwiliad yn ymdebygu ymchwiliad o ddynladdiad.
"Fel gallwch chi ddychmygu, mae'n gyfnod trawmatig i Alina a'i theulu [wedi iddyn nhw] gael gwybod am hynny neithiwr.
"Mae'n anodd iawn i Alina ddod i delerau gyda chlywed yn gyntaf ei fod yn cael ei ymchwilio yn debyg i ddamwain.
"A nawr, am ba bynnag reswm, mae'r heddlu yn trin yr achos yn debyg i ddynladdiad.
"Ry'n ni'n gwybod eu bod nhw wedi cyfweld â nifer helaeth o bobl ifanc.
"Ry'n ni'n gwybod fod pobl wedi dod ymlaen i ddweud wrth yr heddlu'r hyn wnaethon nhw ei weld a'i glywed. Ac o ganlyniad mae'r heddlu nawr wedi newid eu dull o ymchwilio.
"Dim ond dydd Gwener ddiwethaf gawsom ni'r angladd. Roedd hynny ynddo'i hun yn drawmatig, gweld cynifer o bobl ifanc yn ddagreuol ac wedi ypsetio.
"Pob tro mae 'na ddiweddariad neu mwy o wybodaeth, mae'n chwarae ar feddwl [Alina]. Ac mae'n ei hatgoffa bod peth ffordd i fynd eto cyn i ni gael yr atebion i gyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019