Hen ddarn £1: 145 miliwn yn parhau i fod 'ar goll'

  • Cyhoeddwyd
£1 hen a newyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bunt newydd 2.8mm yn fwy tenau ac 8.75g yn fwy ysgafn na'r hen bunt

Mae 24 miliwn o hen ddarnau £1 wedi'u dychwelyd i'r Bathdy Brenhinol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae tua 145 miliwn o'r darnau arian - nad oes modd eu defnyddio ers mis Hydref 2017 - yn parhau "ar goll".

Cafodd y darn crwn ei ddisodli gan y fersiwn 12-ochr i helpu i fynd i'r afael â ffugio.

Yn ôl y Bathdy Brenhinol, gall yr hen ddarn £1 barhau i gael ei gyflwyno i gyfrif cwsmer yn y rhan fwyaf o fanciau'r stryd fawr.

Cyflwynwyd y darn £1 newydd ar 28 Mawrth 2017, ac amcangyfrifir bod un o bob 30 o'r hen ddarn yn ffug yn ôl y Bathdy Brenhinol, sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.

Roedd tua 1.7 biliwn hen ddarn arian £1 mewn cylchrediad pan beidiodd â bod yn arian cyfreithlon.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y punnoedd newydd ar ôl cael eu gwneud yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant

Dywedodd llefarydd ar ran y Bathdy: "Roedd ein hymgyrch gyfathrebu yn annog pobl i ddychwelyd hen ddarnau arian £1.

"Gall y gyfran fach o ddarnau arian na ddychwelwyd barhau i gael eu hadneuo i gyfrif cwsmer yn y rhan fwyaf o fanciau'r stryd fawr yn y DU."

Ychwanegodd: "Rydym yn disgwyl y bydd rhai yn cael eu dychwelyd am nifer o flynyddoedd i ddod wrth i bobl ddod o hyd i'r darnau arian hyn."

Pryd ddaeth rhai o ddarnau arian eraill i ddiwedd eu hoes?

  • 50c mawr - 1998

  • Fflorin - 1993

  • Swllt - 1990

  • Hanner ceiniog - 1984

  • Chwecheiniog - 1980

  • Tair ceiniog - 1971

(Ni chafodd darnau arian a ddefnyddiwyd cyn cyflwyno arian degol yn 1971, fel y fflorin a'r swllt, eu "dirymu" yn swyddogol tan y 1990au, ond i bob pwrpas roeddent wedi peidio â chylchredeg ymhell cyn hynny.)

Mae miliynau o'r hen ddarnau £1 wedi'u toddi i lawr i helpu i greu rhai o'r rhai newydd yn y Bathdy Brenhinol.

Disgrifiwyd y darn arian newydd fel yr "arian mwyaf diogel yn y byd", gyda chyfres o fanylion gwrth-ffugio, gan gynnwys deunydd y tu mewn y gellir ei ganfod pan gaiff ei sganio'n electronig gan beiriannau.

Awgrymodd adolygiad annibynnol o arian parod a gyhoeddwyd ym mis Mawrth fod arian papur a darnau arian yn angenrheidiol i wyth miliwn o bobl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol