Prosiectau a phencampwyr ar restr fer gwobrau'r Loteri
- Cyhoeddwyd
Mae tri phrosiect o Gaerdydd yn apelio am gefnogaeth mewn pleidlais gyhoeddus ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol.
Fe allai Clwb Bocsio Amatur Phoenix Llanrhymni yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a phrosiect Behind the Label ennill gwobr ariannol o £10,000 petai nhw'n dod i'r brig yn eu categorïau unigol.
Roedd dros 700 o sefydliadau wedi cael eu hystyried cyn llunio'r enwebiadau terfynol ar gyfer gwobrau eleni - sy'n dathlu prosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gyda chymorth arian loteri.
Hefyd mae'r athletwr Paralympaidd Tanni Grey-Thompson a'r bencampwraig Taekwondo, Jade Jones, ar restr fer gwobr i anrhydeddu arwr chwedlonol mwyaf y byd chwaraeon yn y cyfnod ers sefydlu'r Loteri Genedlaethol.
Bydd y cyfnod pleidleisio yn dod i ben ar 21 Awst.
Mae Clwb Bocsio Amatur Phoenix Llanrhymni, dolen allanol ymhlith 10 o brosiectau ar restr fer y categori Chwaraeon.
Cafodd ei agor mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd yn 2008, ac mae hefyd yn ganolfan gymunedol sy'n "cynnig man diogel i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio'r gampfa, bod yn heini a gwella eu lles meddyliol, ynghyd â gwneud ffrindiau newydd".
Mae'r clwb newydd ddechrau cydweithio gyda Heddlu De Cymru i ddod â phobl ifanc oddi ar y stryd mewn ymgais i fynd i'r afael â lefelau troseddau gyda chyllyll ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ers 2008, mae'r clwb wedi derbyn £32,000 mewn grantiau gan Chwaraeon Cymru er mwyn ei sefydlu, ei rhedeg a phrynu offer newydd ac mae wedi llwyddo i gael £9,900 pellach o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal clybiau haf a denu rhagor o bobl.
Mae'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, dolen allanol wedi ei chynnwys yn rownd olaf y categori Prosiect Treftadaeth Gorau.
Ddechrau Gorffennaf fe enillodd yr atyniad anrhydedd Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 a gwobr ariannol o £100,000.
Cafodd gwerth £30m o welliannau eu cwblhau i weddnewid y safle mewn pryd i ddathlu pen-blwydd yr amgueddfa yn 70 oed.
Roedd y cyllid ar gyfer y cyfleusterau, orielau ac adeiladau hanesyddol newydd yn cynnwys £11.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol - grant mwyaf erioed y loteri i unrhyw brosiect yng Nghymru.
Prosiect sy'n ceisio rhoi llais a hunan-barch i bobl sydd wedi bod yn ddigartref yw Behind the Label, dolen allanol, sydd ar restr fer y categori am y Prosiect Diwylliant, y Celfyddydau a Ffilm gorau yn y DU.
Mae'n cael ei gynnal gan yr elusen Theatr Versus Oppression (TVO) mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a'r elusen digartrefedd, The Wallich.
Dywed y trefnwyr bod annog unigolion i rannau profiadau sy'n sail wedyn i berfformiadau theatr amgen yn creu "perfformiad anhygoel o onest a chignoeth sy'n agoriad llygad ac yn archwilio ymddygiadau pobl sydd wedi profi digartrefedd yn ymarferol a'r gwrthdaro a brofir ganddynt.
Cafodd TVO grant o £187,478 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2017 i sefydlu'r prosiect fel rhaglen reolaidd.
Dywedodd Jonathan Tuchner o'r Loteri Genedlaethol bod yr holl sefydliadau yn y rownd derfynol "yn gwneud gwaith anhygoel yn eu cymuned leol" bod eu gwaith "yn creu argraff hynod o arbennig".
Bydd y seremoni wobrwyo'n cael ei darlledu ar BBC1 ym mis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017