Ymchwil all roi gobaith i gleifion â math gwaethaf MS

  • Cyhoeddwyd
Euryl James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Euryl James ymhlith y cleifion sy'n rhan o'r arbrawf Simvastin

Mae gwaith ymchwil arloesol yn digwydd yn Ysbyty Treforys all roi gobaith i bobl sy'n byw â'r math mwyaf difrifol o barlys ymledol, neu MS.

Mae tîm o ymchwilwyr a 25 o gleifion yn edrych yn fanwl i weld a ydi cyffuriau statin yn gallu arafu datblygiad y cyflwr a dirywiad yn safon bywyd cleifion.

Un o'r 25 ydi Euryl James o Langenydd ym Mhenrhyn Gŵyr sy'n byw gydag MS ers blynyddoedd.

"Dechreuodd yr MS rhyw 40 blynedd yn ôl, pan o'n i bythdi 21," meddai.

"Colles i'r golwg mewn un lygad, ond ddath e nôl mewn mis neu ddau.

"Briodes i, ges i'r plant a dechreues i gwmpo wedyn. Ta le o'n i'n mynd, o'n i'n cwmpo."

Disgrifiad o’r llun,

Cylfwr niwrolegol yw MS sy'n effeithio ar allu person i wneud pethau y mae eraill yn ei gymryd yn ganiataol, gan gynnwys cerdded a sefyll

Cyflwr niwrolegol sy'n effeithio'r ymennydd a llinyn y cefn ydi MS, ac ar hyn o bryd, does dim gwella ohono.

Wrth i'r cyflwr ddatblygu, mae'n amharu ar allu unigolyn i wneud pethau fel sefyll, cerdded a gweld.

"Dwi ddim yn gallu cerdded a chario rhywbeth achos pan ydw i'n cerdded, fi'n gorfod defnyddion dwy ffon, ac felly mae'n anodd i gerdded a chario rhywbeth yr un pryd," meddai Euryl.

"Dwi ddim yn gallu cerdded yn bell. Dwi'n gallu cerdded o gwmpas y tŷ ond i fynd allan o'r tŷ, fi'n defnyddio'r sgwter."

Cyffur lleihau colesterol

Mae'r gwaith ymchwil yn edrych ar ddefnydd posib Simvastatin - cyffur sy'n cael ei ddefnyddio i drin clefyd y galon ac i leihau lefelau colesterol yn y gwaed.

"Wrth fesur ar yr MRI, oedd e'n dangos bod 'atrophy' yn yr ymennydd yn llawer llai yn y bobl ar y Simvastatin na'r bobl oedd ar y plasebo," meddai Bernie Conwy, nyrs arbenigol MS yn Nhreforys.

"Felly gobeithio y bydde fe yn arafu dilyniant yn y bobl sydd ag MS sy'n gwaethygu."

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r statin gael effaith bositif ar fywydau cleifion, yn ôl Leanne Walters

Yn ôl y Gymdeithas MS, mae 4,900 o bobl yng Nghymru yn byw gydag MS.

Bydd eu hanner yn datblygu MS Eilaidd sy'n gwaethygu.

Mae peth gwaith ymchwil wedi ei wneud yn y maes yn barod sy'n awgrymu bod Simvastatin yn helpu.

Y cam nesaf i'r ymchwilwyr yn Abertawe ydi profi bod Simvastatin yn arafu, neu hyd yn oed atal, dirywiad pobl sydd ag MS eilaidd sy'n gwaethygu.

"Mae'r statin hyn, os ydi hyn yn mynd i stopio fe, neu arafu fe, bydd e'n cael effaith mawr positif ar bywyde bob dydd y cleifion 'ma," meddai Leanne Walters, Pencampwraig Tîm Sglerosis Ymledol yn Ysbyty Treforys.

Nid dyma'r unig waith ymchwil sy'n digwydd yn Abertawe ar hyn o bryd.

Mae'r Gymdeithas MS yn ariannu gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n edrych yn fanylach ar effaith colesterol ar MS Eilaidd.

Tair blynedd o hyd yw'r astudiaeth yn Ysbyty Treforys, ac mae Euryl James yn obeithiol ynglŷn â'r canlyniadau.

"O'n i'n meddwl man a man neud e. Os nad yw e'n mynd i helpu fi, ma' fe'n mynd i rywun arall yn y dyfodol. Gobeithio y bydd o ryw les i rywun.

"Os taw'r plasebo fi arno ar hyn o bryd, ar ddiwedd y tair blynedd pan fyddwn nhw'n ffindio mas os yw e'n helpu, gobeithio bryd 'ny ga'i fynd ar y statin iawn."