Delio â Parkinson's trwy ddysgu i chwarae'r piano

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Derick yn chwarae'r piano er mwyn delio ag effeithiau'r Parkinson's

Mae dyn o Ddyffryn Conwy yn dweud ei fod yn delio gydag effeithiau clefyd Parkinson's trwy ddysgu i chwarae'r piano.

Fe gafodd Derick Westerman Davies, 74 oed o Lanrwst, y diagnosis yn 2008.

Er bod y newyddion wedi bod yn "sioc" iddo, penderfynodd bod angen aros yn bositif er mwyn ymdopi â'r symptomau ac felly dechreuodd chwarae'r piano.

"Yn y dechrau un, mae o'n embarrassing, ond buan iawn mae rhywun yn dod i arfer efo fo," meddai.

"Da chi'n mynd o un diwrnod i'r llall, ddim yn siŵr be' sy'n mynd ymlaen yn y dechrau, tan 'da chi'n rhoi eich meddwl yn iawn a rhoi popeth yn ei le... ac wrach dydy pethau ddim yn mynd yn wael mor sydyn ac mae pobl yn ei ddweud."

Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Derick Westerman Davies ddechrau chwarae'r piano er mwyn aros yn bositif

Cyflwr niwrolegol ydy clefyd Parkinson's, sy'n gwaethygu dros amser.

Mae'r symptomau'n cynnwys cryndod mewn rhannau o'r corff, symudiadau araf a chyhyrau anystwyth.

Mae'n effeithio tua un ym mhob 350 o bobl yn y Deyrnas Unedig.

'Meddwl 'mod i'n boncyrs!'

Ag yntau'n gerddor fu'n chwarae'r gitâr am flynyddoedd, ar ôl darganfod bod ganddo'r cyflwr penderfynodd Mr Davies y dylai "herio'r piano".

"Mi oedd yn anodd iawn i wneud oherwydd 'mod i'n dysgu chwarae offeryn newydd o'r cychwyn, ond efo Parkinson's hefyd mi oedd o gymaint yn anoddach," meddai.

"Mae'r piano yn offeryn sydd wedi bod yn help ofnadwy i mi - mae o wedi bod yn rhywbeth sydd wedi mynd â fi ymlaen.

"Mae wedi gwneud i mi fedru gwneud pethau eraill fel chwarae golff a gwneud unrhyw sialens.

"Mae ambell un yn meddwl 'mod i'n boncyrs!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Derick Westerman Davies yn dweud bod y symptomau wedi datblygu'n arafach am iddo ddysgu i chwarae'r piano

Dros 10 mlynedd ers darganfod bod ganddo Parkinson's, mae Mr Davies yn dweud bod y symptomau wedi datblygu yn arafach oherwydd ei fod wedi dysgu i chwarae'r piano.

"Beth mae'n ymddangos sydd wedi digwydd ydy fy 'mod wedi troi'n ychydig o enigma yn nhermau fy natblygiad i gyda Parkinson's," meddai.

"Mae'n ymddangos ei fod yn symud i gyflwr gwaeth yn arafach na fyddai'n gwneud fel arall.

"Dwi'n credu mai chwarae'r piano a cheisio cael agwedd bositif ydy'r rheswm am hynny.

"Mae wedi dod yn ffrind - dyna'r ffordd orau i ddisgrifio'r peth. Mae wedi bod yn anhygoel i ddysgu ei chwarae.

"Mae'n rhaid i mi weithio'n galed er mwyn gwneud bron popeth, ond mae i gyd yn ei le ac y piano ydy un o'r prif resymau."