Marwolaeth Caerdydd: Rhyddhau dyn eto

  • Cyhoeddwyd
Lauren GriffithsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lauren Griffiths ei ddarganfod yn Cathays ddiwrnod olaf Ebrill

Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau dyn a gafodd ei ailarestio mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 21 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Lauren Griffiths ei ddarganfod mewn fflat yn ardal Cathays o'r brifddinas am tua 18:30 ar ddydd Mawrth, 30 Ebrill.

Y noson honno fe gafodd dyn 22 oed ei arestio cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.

Ddydd Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod wedi ailarestio'r dyn yn ei gartref yn Wrecsam wedi i wybodaeth newydd ddod i law.

Ond nos Fercher, fe wnaethon nhw gadarnhau ei fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth am yr eildro wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu'r De: "Mae'n dri mis ers i gorff Lauren gael ei ganfod, ac ers hynny rydym wedi bod yn ymchwilio'n drwyadl i amgylchiadau ei marwolaeth.

"Rydym yn parhau i dderbyn gwybodaeth gan y cyhoedd, ac yn ddiolchgar am hynny, ond hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un arall sy'n medru cynnig gwybodaeth bellach."

Mae profion pellach yn cael eu cynnal i ganfod union achos ei marwolaeth.

Mae ditectifs yn a awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn adnabod Lauren, ac oedd wedi siarad gyda hi rhwng Mawrth 2018 ac Ebrill 2019.

Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900154230.