Canfod gweddillion mynwent Rhufeinig yn Llangefni
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr wedi darganfod mynwentydd o'r Oes Rufeinig mewn safleoedd yn Ynys Môn.
Cafodd gweddillion dros 80 o bobl eu darganfod yn dilyn ymchwiliadau ar ddau safle cyfagos gan Archeoleg Cymru ac Archeoleg Brython.
Y gred yw bod y darganfyddiad yn dyddio 'nôl i'r bedwaredd ganrif.
Dywedodd Dr Irene Garcia Rovira, rheolwr y prosiect ar ran Archeoleg Cymru, bod gan y darganfyddiad "bwysigrwydd cenedlaethol".
Daeth archeolegwyr o hyd i'r safle cyntaf 'nôl yn 2016 wrth weithio ar dir oedd am gael ei ddefnyddio ar gyfer ffordd gyswllt newydd yn Llangefni.
Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd Archeoleg Cymru eu galw i'r ail safle - gafodd ei ddarganfod wrth i Goleg Menai ddatblygu eu campws newydd ar dir cyfagos.
Dywedodd Ms Garcia Rovira bod Archeoleg Brython wedi dod o hyd i 54 o sgerbydau ar y safle cyntaf, tra bod 34 wedi eu darganfod yn yr ail safle.
"Cafodd y sgerbydau eu darganfod yn dilyn dau ymchwiliad gwahanol... mae gan y darganfyddiadau bwysigrwydd cenedlaethol gwirioneddol," meddai.
Cafodd rhai o'r gweddillion eu darganfod mewn eirch carreg.
Fe ddangosodd profion cychwynnol bod y cyrff yn dod o sawl rhan o'r Deyrnas Unedig yn ogystal â rhai o Sbaen a Sgandinafia.
Calchfaen
Ychwanegodd bod y cyrff yn debygol o fod wedi goroesi hyd at 1,600 o flynyddoedd gan fod cymaint o galchfaen yn yr ardal.
Mae cyflwr y gweddillion yn golygu bod modd i archeolegwyr ddysgu am yr hyn roedd y bobl yn ei fwyta yn yr ardal a'u hoedrannau marwolaeth.
Yn ogystal â'r fynwent, daeth archeolegwyr o hyd i ddarn o arian Rhufeinig a broetsh sydd bron i 200 mlynedd yn hŷn na'r cyrff.
Bydd adroddiad ar y cyd yn cael ei gyhoeddi gan y ddau gorff ar ddiwedd yr ymchwiliad ac mae disgwyl i'r darganfyddiadau gael eu harddangos yn Oriel Môn, Llangefni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2019